Chwyldro Iemen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn newid: en:2011–2012 Yemeni revolution
DSisyphBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 28: Llinell 28:
[[en:2011–2012 Yemeni revolution]]
[[en:2011–2012 Yemeni revolution]]
[[es:Rebelión en Yemen de 2011-2012]]
[[es:Rebelión en Yemen de 2011-2012]]
[[fa:خیزش یمن (۲۰۱۱-۲۰۱۲)]]
[[fa:انقلاب یمن (۲۰۱۱-۲۰۱۲)]]
[[fi:Jemenin levottomuudet 2011]]
[[fi:Jemenin levottomuudet 2011]]
[[fr:Révolte yéménite de 2011-2012]]
[[fr:Révolte yéménite de 2011-2012]]

Fersiwn yn ôl 19:30, 24 Mawrth 2012

Y brotest ym Mhrifysgol Sana'a ble gwelwyd cannoedd yn Chwefror, miloedd ym Mawrth a channoedd o filoedd erbyn Ebrill 2011.

Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tunisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gannwys Protestiadau yn Yemen, 2011. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Yemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Yemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh.

Daeth 16,000 ynghyd yn Sana'a ar 27 Ionawr.[2] Ar yr ail o Chwefror cyhoeddodd y Prifweinidog na fyddai'n aefyll yn yr etholiad nesaf yn 2013 nac yn trosglwyddo'r awennau i'w fab. Ar 3 Chwefror daeth 20,000 ynghyd i wrthwynebu'r llywodraeth yn Sana'a ac eraill yn Aden.[3]

Ar y 18ed o Ebrill 2011 saethwyd 40 o bobl mewn protest heddychlon a saethwyd llawer a oedd yn cymryd rhan mewn protestiadau wedi hynny. Erbyn y 23 Ebrill roedd tri o aelodau seneddol wedi ymddiswyddo oherwydd y saethu. Gwelwyd lluniau ar Al Jazeera o filwyr y wlad yn cyhoeddi eu bont yn ochri gyda'r garfan wrth-lywodraeth. Drennydd, ar y 19eg o Ebrill, cyhoeddodd Ali Abdullah Saleh y byddai'n ymddiswyddo o fewn 30 diwrnod ac y byddai'n galw etholiad o fewn 60 diwrnod. Cafwyd cytundeb na fyddai'n cael ei erlyn am gyn-droseddau.

Gweler hefyd


Cyfeiriadau