Robert Southey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: uk:Роберт Сауті |
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: eu:Robert Southey |
||
Llinell 57: | Llinell 57: | ||
[[eo:Robert Southey]] |
[[eo:Robert Southey]] |
||
[[es:Robert Southey]] |
[[es:Robert Southey]] |
||
[[eu:Robert Southey]] |
|||
[[fi:Robert Southey]] |
[[fi:Robert Southey]] |
||
[[fr:Robert Southey]] |
[[fr:Robert Southey]] |
Fersiwn yn ôl 22:16, 18 Mawrth 2012
Bardd o Sais oedd Robert Southey (12 Awst, 1774, Bryste – 21 Mawrth, 1843, Llundain), yn perthyn i'r ysgol Rhamantiaeth Seisnig a gyfrifir yn un o "Feirdd y Llynnoedd" gyda William Wordsworth, Samuel Taylor Coleridge ac eraill. Yn ogystal â bod yn fardd dylanwadol yn ei gyfnod, roedd yn llythyrwr, yn ysgolhaig llên, hanesydd a bywgraffydd a luniodd fywgraffiadau am John Bunyan, John Wesley, William Cowper, Oliver Cromwell, Horatio Nelson ac eraill. Roedd yn medru Portiwgaleg a Sbaeneg hefyd; cyfieithodd sawl gwaith o'r ieithoedd hynny i'r Saesneg ac ysgrifennodd gyfrolau ar hanes Brasil a hanes Rhyfel Crimea. Fel awdur llenyddiaeth plant fe'i cofir am ei fersiwn o Hanes y Tair Arth (rhan o chwedl Goldilocks).
Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol Llundain ar droad y 18fed ganrif. Daeth yn gyfaill i Iolo Morganwg a derbyniodd lawer o syniadau rhamantus y llenor a ffugiwr hwnnw am y Derwyddon. Roedd yn adnabod Cymry eraill yn y ddinas hefyd, a chafodd ei ysbrydoli i lunio'r gerdd ramantaidd Madoc am hanes Madog ab Owain Gwynedd.
Y dylanwadau mwyaf ar waith Southey fodd bynnag oedd hansesion y Beibl, cerddi mawr Dante, gwaith Milton, ac athroniaeth gyfriniol Swedenborg. Mae ei edmygwyr yn cynnwys Yeats a Hart Crane.
Llyfryddiaeth ddethol
- Fall of Robespierre (1794).
- Joan of Arc: An Epic Poem (1796)
- Poems (1797-99)
- Letters from Spain (1797)
- Saint Patrick's Purgatory (1798)
- Devil's Thoughts (1799)
- Thalaba the Destroyer (1801)
- Amadis de Gaula (1803). Cyfieithiad
- Madoc (1805)
- Letters from England (1807)
- Palmerin of England (1807). Cyfieithiad.
- The Cid (1808). Cyfieithiad.
- The Curse of Kehama (1810)
- History of Brazil, Volume I (1810)
- The Life of Nelson (1813)
- Roderick, the Last of the Goths (1814)
- Wat Tyler: A Dramatic Poem (1817)
- Journal of a Tour in Scotland in 1819 (cyhoeddwyd 1929)
- The Life of Wesley, and the rise and progress of Methodism (c.1820)
- A Vision of Judgment (1821)
- Life of Cromwell (1821)
- Thomas More (1829)
- The Pilgrim's Progress with a Life of John Bunyan (1830)
- Cowper (1833)
- The Doctors (1834)
- Select Lives of Cromwell and Bunyan (1846)
- The Inchcape Rock
- After Blenheim
Dolenni allanol
- "Madoc" e-destun o'r gerdd faith