Y Mudiad Celf a Chrefft: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ro:Mișcarea artistică Arts and Crafts
Llinell 39: Llinell 39:
[[pl:Arts and Crafts Movement]]
[[pl:Arts and Crafts Movement]]
[[pt:Arts & crafts]]
[[pt:Arts & crafts]]
[[ro:Mișcarea artistică Arts and Crafts]]
[[ru:Движение искусств и ремёсел]]
[[ru:Движение искусств и ремёсел]]
[[si:කලා සහ අත්කම් ව්‍යාපාරය]]
[[si:කලා සහ අත්කම් ව්‍යාපාරය]]

Fersiwn yn ôl 01:02, 15 Mawrth 2012

Mudiad esthetig yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau o flynyddoedd olaf y 19eg ganrif a blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif oedd y Mudiad Celf a Chrefft (Saesneg: Arts and Crafts Movement). Cafodd ei ysbrydoli gan ysgrifau John Ruskin a'r delfrydu rhamantaidd o'r crefftwr yn cymryd balchder yn ei waith llaw ei hun. Roedd ar ei anterth rhwng tua 1880 ac 1910.

Roedd yn fudiad diwygio a ddylanwadodd ar bensaernïaeth, celf addurnol, gwneuthuriaeth dodrefn, dylunio tu mewn, a chrefftau Prydeinig ac Americanaidd, ac hefyd hyd yn oed dyluniadau gerddi "bwthyn" William Robinson neu Gertrude Jekyll. Cafodd yr arddull ei arddel gan William Morris, Charles Robert Ashbee, T. J. Cobden Sanderson, Walter Crane, Nelson Dawson, Phoebe Anna Traquair, Herbert Tudor Buckland, Charles Rennie Mackintosh, Christopher Dresser, Edwin Lutyens, William De Morgan, Ernest Gimson, William Lethaby, Edward Schroeder Prior, Frank Lloyd Wright, Gustav Stickley, Greene & Greene, Charles Francis Annesley Voysey, Christopher Whall ac eraill.

Enghreifftiau o bensaernïaeth arddull Celf a Chrefft yng Nghymru

Dolenni allanol