Nordrhein-Westfalen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
PixelBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: uz:Shimoliy Reyn-Vestfaliya |
B r2.7.1) (robot yn newid: ar:شمال الراين وستفاليا |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
[[als:Nordrhein-Westfalen]] |
[[als:Nordrhein-Westfalen]] |
||
[[an:Renania d'o Norte-Westfalia]] |
[[an:Renania d'o Norte-Westfalia]] |
||
[[ar:شمال الراين |
[[ar:شمال الراين وستفاليا]] |
||
[[az:Şimali Reyn-Vestfaliya]] |
[[az:Şimali Reyn-Vestfaliya]] |
||
[[bar:Nordrhein-Westfalen]] |
[[bar:Nordrhein-Westfalen]] |
Fersiwn yn ôl 11:23, 13 Mawrth 2012
Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Nordrhein-Westfalen (yn llythrennol 'Gogledd Rhein a Westfalen'). Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad, ar y ffin â'r Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae'n cynnwys nifer o ddinasoedd mawr, gan gynnwys Düsseldorf, prifddinas y dalaith, Cwlen, ei dinas fwyaf, Aachen, Bielefeld, Bonn, Bochum, Essen, Dortmund, Duisburg, Gelsenkirchen, Münster, Oberhausen, Paderborn a Wuppertal.
Daearyddiaeth
Mae Nordrhein-Westfalen yn cynnwys rhan ogleddol y Rheinland (Nordrhein) ac ardal Westfalen. Mae Afon Rhein ei hun yn rhannu'r ddwy ardal oddiwrth ei gilydd, Nordrhein yn y gorllewin, a Westfalen yn y dwyrain. Canol y dalaith yw ardal ddiwydiannol y Ruhr.
Hanes
Crewyd y dalaith gan y weinyddiaeth filwrol Brydeinig ym 1946 allan o rhan ogleddol yr hen Rheinprovinz (Talaith y Rhein) a thalaith Westfalen. Daeth y dalaith newydd â holl ardaloedd y Ruhr at ei gilydd. Gan fod y dalaith newydd o fewn parth meddiannol Prydain, roedd hyn yn sicrhau rheolaeth Prydain dros ardal ddiwydiannol fwya'r Almaen. Ychwanegwyd hen dalaith Lippe ati ym 1947. Mae'r ffiniau wedi aros yr un ers hynny.