Cytsain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: af:Konsonant |
B r2.7.1) (robot yn newid: ku:Dengdar |
||
Llinell 86: | Llinell 86: | ||
[[kn:ವ್ಯಂಜನ]] |
[[kn:ವ್ಯಂಜನ]] |
||
[[ko:닿소리]] |
[[ko:닿소리]] |
||
[[ku: |
[[ku:Dengdar]] |
||
[[kw:Kessonen]] |
[[kw:Kessonen]] |
||
[[la:Consonans]] |
[[la:Consonans]] |
Fersiwn yn ôl 04:26, 12 Mawrth 2012
Sain a gynhyrchir drwy gau neu drwy gulhau llif yr awyr sy'n pasio allan o'r ysgyfaint ar hyd y llwybr lleisiol yw cytsain. Gan fod yna fwy o gytseiniaid yn ieithoedd y byd nag sydd yn yr wyddor Ladin neu mewn unrhyw ddull ysgrifennu arall, defnyddir symbolau'r Gymdeithas Seineg Ryngwladol (yr IPA) i'w dynodi. Yn draddodiadol, gwahaniaethir rhwng cytseiniaid ar sail nifer o nodweddion cynaniadol:
- dull cynanu: sut mae'r cytsain yn cael ei chynanu, ai drwy atal llif yr awyr yn llwyr i greu ffrwydrolion megis /p b t d k g/ neu drwy lesteirio llif yr awyr yn rhannol i greu ffritholion megis /f/ (Cymraeg ff), /v/ (Cymraeg f), /θ/ (Cymraeg th), /ð/ (Cymraeg dd) neu /x/ (Cymraeg ch)
- lle cynanu: lle ar hyd y llwybr lleisiol y digwydd y rhwystr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu lle mae'r tafod yn ymgyffwrd â thaflod y genau
- os yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu fel y mae'r gytsain yn cael ei chynhyrchu, ceir cytsain leisiol megis /b d g v ð/; os nad yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu, ceir cytsain ddi-lais megis /p t k f θ/.
- amser dechrau lleisio
- dull y mae'r awyr yn llifo
- hyd y gytsain
Ceir hefyd cytseiniaid sy'n newid eu cynaniad fel y maen nhw'n cael eu cynhyrchu. Os yw cytsain yn dechrau gyda rhwystr llwyr yn y llwybr lleisiol sydd wedyn yn gwanhau i fod yn rhwystr rhannol yn ail ran y gytsain, ceir cytsain affrithol megis /tʃ/ (fel yn y gair Tsieina) neu /dʒ/ (fel yn jôc).
Gall fod yna fwy nag un cynaniad yn yr un gytsain. Cyfeirir at hyn fel cynaniad eilradd.
Y cytseiniau yn Gymraeg yw:
di-llais | lleisiol | |
---|---|---|
ffrithol | <ch>=/x/, <ff> a <ph>=/f/, <h>=/h/, <ll>=/ɬ/, <s>=/s/, <th>=/θ/ |
<dd>=/ð/, <f>=/v/ |
ffrwydrol | <c>=/k/, <p>=/p/, <t>=/t/ | <b>=/b/, <d>=/d/, <g>=/g/ |
trwynol | <ng>=/ŋ/, <m>=/m/, <n>=/n/ | |
eraill | <rh>=/r̥/ | <l>=/l/ <r>=/r/ |