Gabon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: or:ଗାବୋନ
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: zu:IGaboni
Llinell 245: Llinell 245:
[[zh-min-nan:Gabon]]
[[zh-min-nan:Gabon]]
[[zh-yue:加蓬]]
[[zh-yue:加蓬]]
[[zu:IGaboni]]

Fersiwn yn ôl 03:15, 7 Mawrth 2012

République Gabonaise
Gweriniaeth Gabon
Baner Gabon Arfbais Gabon
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: La Concorde
Lleoliad Gabon
Lleoliad Gabon
Prifddinas Libreville
Dinas fwyaf Libreville
Iaith / Ieithoedd swyddogol Ffrangeg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Ali Bongo Ondimba
Paul Biyoghé Mba
Annibyniaeth
- Datganwyd
ar Ffrainc
17 Awst 1960
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
267,668 km² (75ain)
bron i ddim
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Dwysedd
 
1,384,000 (148ain)
5.2/km² (216eg)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$9.621 biliwn (136fed)
$7,055 (89ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.635 (123fed) – canolig
Arian cyfred Ffranc CFA (XFA)
Cylchfa amser
 - Haf
WAT (UTC+1)
WAT (UTC+1)
Côd ISO y wlad .ga 1
Côd ffôn +241

Gweriniaeth yng ngorllewin Canolbarth Affrica yw Gweriniaeth Gabon neu Gabon (Ffrangeg: La République gabonaise). Mae'r boblogaeth yn isel iawn yn nhermau gwledydd Affrica. Y gwledydd cyfagos yw Guinea Gyhydeddol, Camerŵn a Gweriniaeth y Congo. Mae'n wlad sy'n llawn o goedwigoedd trofaol sy'n gorwedd ar arfordir Gwlff Gini. Mae ganddi fauna a flora cyfoethog ac erys ei hamgylchedd heb ei difetha llawer. Roedd gynt yn drefedigaeth Ffrengig. Ers ei annibyniaeth ar Ffrainc yn 1960, mae hi dan reolaeth arlywyddion awtocratig, ond mae system bleidol a chyfansoddiad ganddi newydd ers y 1990au.

Hanes

Ychydig sy'n hysbys am hanes cynnar y wlad. Gwelwyd tonnau olynol o ymsefydlu yn y wlad, hyd at y 19eg ganrif, gan bobloedd Pygmi i ddechrau ac yna ar raddau mwy sylweddol gan y Bantu, sy'n ffurfio mwyafrif y boblogaeth erbyn heddiw. Yn ystod y mudo hyn daeth yr Ewropeiaid cyntaf, y Portiwgaliaid, i lannau Gabon yn y 15fed ganrif. Daw'r enw 'Gabon' o'r enw Portiwgaleg Gabão "penrhyn", oherwydd siâp yr aber lle saif Libreville heddiw. Cipiodd Ffrainc y wlad oddi ar Portiwgal yn 1855. Cafodd y wlad ei hannibyniaeth 17 Awst, 1960.

Gwleidyddiaeth

Mae gan Gabon system arlywyddol. Arlywydd cyntaf Gweriniaeth Gabon oedd Léon Mba. Yr ail arlywydd, sydd mewn grym ers 1967, yw Omar Bongo Ondimba.

Taleithiau

Rhennir Gabon yn 9 talaith:

Iaith a diwylliant

Map o Gabon

Ffrangeg yw'r brif iaith a'r unig iaith swyddogol ond sieredir sawl iaith brodorol yn ogystal.

Gyda'i chymydog Camerŵn mae Gabon yn gartref i ddiwylliant y Ffangiaid, grŵp ethnig sy'n adnabyddus am ei dawnsiau a'i chelf dradoddiadol, yn arbennig ei masgiau trawiadol.

Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato