Sacsoniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ka:საქსები
MastiBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn tynnu: ta:சாசியர்கள்
Llinell 73: Llinell 73:
[[sr:Саси]]
[[sr:Саси]]
[[sv:Saxare]]
[[sv:Saxare]]
[[ta:சாசியர்கள்]]
[[th:ชาวแซ็กซอน]]
[[th:ชาวแซ็กซอน]]
[[tr:Saksonlar]]
[[tr:Saksonlar]]

Fersiwn yn ôl 13:40, 1 Mawrth 2012

Talaith Schleswig-Holstein yn Yr Almaen. O'r ardal yma y daeth y Sacsoniaid yn wreddiol.

Yn wreiddiol, roedd y Sacsoniaid yn bobl niferus a nerthol oedd yn byw yn yr ardaloedd sydd yn yr Almaen a'r Iseldiroedd heddiw. Roedd Ptolemy yn sôn amdanynt pan yn siarad am Jutland (rhan o Ddenmarc heddiw) a'r ardal sydd yn Schleswig-Holstein, y talaith mwyaf gogleddol yr Almaen heddiw. Mae'n ymddangos fod yr enw Sacson yn dod o'r Sax, math o gleddyf yr oeddynt yn ei defnyddio.

Y Sacsoniaid ym Mhrydain

Aeth rhai Sacsoniaid gyda pobl Anglia (sef yr Eingl), Jutland (yr Iwys) a Ffrisia i Brydain yn ystod yr Oesodd Canol Cynnar. Roedd teyrnasoedd y Sacsoniaid yn ne-ddwyrain Lloegr, ac enw'r Sacsoniaid sydd wedi ei gadw hyd heddiw yn Essex, Sussex a Wessex (sef teyrnasoedd y Sacsoniaid Dwyreinol, y Sacsoniaid Deheuol a'r Sacsoniaid Gorllewinol). Yn ddiweddarach daeth y Sacsoniaid, yr Eingl ac eraill yn un genedl, a defnyddir yr enw 'Eingl-Sacsoniaid' amdanynt. Ymhen amser unwyd Lloegr yn un deyrnas. Daw'r enw Cymraeg Saeson, fel y gair am y Saeson yn yr ieithoedd Celtaidd eraill, o'r enw 'Sacsoniaid'. Mae eu henw amdanynt eu hunain, English, yn dod o'r enw 'Angliaid' (Eingl).

Y Sacsoniaid yn yr Almaen

Ar y cyfandir yn ystod y 8fed ganrif codwyd Dugiaeth y Saeson. Roedd y Sacsoniaid yn amharod i dderbyn Cristnogol am amser hir, ond gorfododd Siarlymaen (772-804) hwy i ddod yn Gristionogion ar ôl eu gorchfygu mewn rhyfel a lladd llawer ohonynt. Dinistriwyd Irminsul eu coeden sanctaidd.

Talaith Niedersachsen (Sacsoni Isaf) yn Yr Almaen.

O dan reolaeth y Carolingiaid roedd rhaid i'r Saeson talu teyrnged, fel y bobloedd Slafiaidd, megis yr Abodrites a'r Wend. Beth bynnag, daeth Sacson i fod yn frenin hefyd (Harri yr Adarwr ym 919) ac yn ystod y 10fed ganrif daeth Sacson yn ymerawdwr cyntaf yr Almaen (Otto I, Fawr). Daeth ei rheolaeth i ben ym 1024 a rhanwyd y wlad ym 1180 pan oedd Harri y Llew, ei ŵyr, yn gwrthod dilyn yr Ymerawdwr Ffrederic Barbarossa i frwydro yn yr Eidal.

Mae ardal o'r enw Sachsen (sef Gwlad y Sacsoniaid) yn ne-ddwyrain yr Almaen. Cafodd yr ardal hon ei henw pan gipiodd Margraf Meissen diriogaeth y Sacsoniaid ym 1423 a newidiodd ef enw y cyfan o'i diriogaethau i Sachsen am fod y teitl Dug y Sacsoniaid yn swnio'n fwy nerthol na'i deitl gwreiddiol. Oherwydd hyn nid yw'r "Sacsoniaid" modern, yn yr ysytyr o drigolion Sacsoni, yn cyfateb yn union i'r hen lwyth.

Heddiw, mae gan dair o daleithiau'r Almaen yr enw "Sacson" yn rhan o'u henwau nhw: Niedersachsen yn y gogledd-orllewin, Sachsen Anhalt yn y canolbarth a Sachsen yn y de-ddwyrain.