Alemanni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: jv:Suku Alemanni
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: ka:ალემანები
Llinell 76: Llinell 76:
[[ja:アラマンニ人]]
[[ja:アラマンニ人]]
[[jv:Suku Alemanni]]
[[jv:Suku Alemanni]]
[[ka:ალემანები]]
[[ko:알레마니족]]
[[ko:알레마니족]]
[[la:Alamanni]]
[[la:Alamanni]]

Fersiwn yn ôl 19:30, 28 Chwefror 2012

Tiriogaethau yr Alamanni, a safleoedd brwydrau rhwng yr Alamanni a'r Rhufeiniaid, 3ydd i 6ed ganrif

Roedd yr Alemanni, Allemanni neu Alamanni yn wreiddiol yn gynghrair o lwythau Almaenig oedd yn byw o amgylch rhan uchaf yr Afon Main, yn awr yn yr Almaen. Bu llawer o frwydro rhwng yr Alemanni a'r Ymerodraeth Rufeinig o'r 3edd ganrif ymlaen; gyda'r Alamanni yn aml yn croesi'r ffin i ymosod ar dalaith Germania Superior. O'r 5ed ganrif ymlaen, ehangodd eu tiriogaethau, gan symud i mewn i Alsace a chyrraedd dyffrynnoedd yr Alpau erbyn yr 8fed ganrif. Ffurfiasant wlad Alemannia, oedd ar brydiau yn annibynnol ond yn amlach na pheidio dan reolaeth y Ffranciaid. Collodd Allemania ei hunaniaeth pan ymgorfforodd Siarl Martel y wlad yn yr Ymerodraeth Ffrancaidd yn gynnar yn yr 8fed ganrif.

Daw'r enw "Yr Almaen" am y wlad o enw'r Alamanni, ac felly hefyd yn Ffrangeg (Allemagne) ac yn Sbaeneg (Alemania).


Alemannia (melyn) a Bwrgwyn Uchaf (gwyrdd) tua 1000.

Rhestr o reolwyr yr Alemanni

Brenhinoedd
Dugiaid dan reolaeth y Ffranciaid