Rebecca (Beibl): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: id:Ribka
MystBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: fr:Rébecca (Bible)
Llinell 23: Llinell 23:
[[fa:ربه‌کا]]
[[fa:ربه‌کا]]
[[fi:Rebekka (Raamattu)]]
[[fi:Rebekka (Raamattu)]]
[[fr:Rebecca (Bible)]]
[[fr:Rébecca (Bible)]]
[[he:רבקה]]
[[he:רבקה]]
[[id:Ribka]]
[[id:Ribka]]

Fersiwn yn ôl 02:16, 28 Chwefror 2012

Rebecca ac Eliezer gan Bartolomé Esteban Murillo, 17eg ganrif.

Cymeriad yn yr Hen Destament a gwraig Isaac oedd Rebecca, weithiau Rebeccah (Hebraeg: רִבְקָה, Riḇqāh).

Dywedir yn Llyfr Genesis ei bod yn ferch i Bethuel a chwaer i Laban. Wedi i Sarah ei wraig farw, gyrrodd Abraham ei was Eliezer i Fesopotamia, i chwilio am wraig i'w fab Isaac, a dychwelodd gyda Rebecca. Daeth yn fam i Jacob ac Esau.

Dywedir fod Rebecca wedi ei chladdu yn Ogof y Patriarchiaid ger Hebron, gydag Isaac, Abraham a Sarah.

Er nad oes sicrwydd, mae'n debyg mai hi a roddodd ei henw i Helyntion Beca yng Nghymru yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Roedd yr helyntion yma yn brotest yn erbyn y tollbyrth ar y ffyrdd, ac roedd y dynion yn gwisgo dillad merched wrth ymosod ar y tollbyrth fel na fyddai neb yn eu hadnabod. Mae'r enw Rebecca yn gyfeiriad at adnod 60 yn Genesis 24, lle sonir am fam a brawd Rebecca yn gadael iddi fynd gydag Eliezer i briodi Isaac:

Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.