Mari I, brenhines Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: io:Mary 1ma di Anglia |
B r2.7.1) (robot yn newid: be-x-old:Марыя I |
||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
[[arz:مارى الأولى ملكة إنجلترا]] |
[[arz:مارى الأولى ملكة إنجلترا]] |
||
[[be:Марыя I Цюдар]] |
[[be:Марыя I Цюдар]] |
||
[[be-x-old:Марыя |
[[be-x-old:Марыя I]] |
||
[[bg:Мария I Тюдор]] |
[[bg:Мария I Тюдор]] |
||
[[br:Mari Iañ Bro-Saoz]] |
[[br:Mari Iañ Bro-Saoz]] |
Fersiwn yn ôl 08:25, 25 Chwefror 2012
Bu Mari I (neu Mari Tudur) (18 Chwefror 1516 - 17 Tachwedd 1558) yn frenhines Lloegr ac Iwerddon o 19 Gorffennaf 1553 hyd at ei marwolaeth ym 1558. Merch Harri VIII, brenin Lloegr a'i wraig gyntaf Catrin o Aragon oedd hi.
Ar ôl ennill y goron ym 1553 ar farwolaeth ei brawd hŷn, Edward VI, penderfynodd Mari ailsefydlu Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru a Lloegr. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis Richard Davies. Llosgwyd bron tri chant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru, Rawlins White yng Nghaerdydd, Robert Ferrar yng Nghaerfyrddin a William Nichol yn Hwlffordd.
Priododd y brenin Felipe II o Sbaen ar y 25 Gorffennaf 1554. Roedd yn briodas amhoblogaidd iawn yn Lloegr.
Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym 1558, ailgyflwynodd ei hanner chwaer Elisabeth y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru a Lloegr.
Ffynonellau
- Davies, John. Hanes Cymru (Llundain: Penguin, 1990)
Rhagflaenydd: Edward VI |
Brenhines Lloegr 19 Gorffennaf 1553 – 17 Tachwedd 1558 |
Olynydd: Elisabeth I |