Sachalin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: br:Sac'halin
Vagobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: af:Sachalin
Llinell 10: Llinell 10:


[[ace:Sakhalin]]
[[ace:Sakhalin]]
[[af:Sachalin]]
[[ar:سخالين]]
[[ar:سخالين]]
[[az:Saxalin adası]]
[[az:Saxalin adası]]

Fersiwn yn ôl 11:33, 24 Chwefror 2012

Saif Sachalin rhwng tit mawr Rwsia a Japan

Ynys ger arfordir dwyreiniol Rwsia yw Sachalin, hefyd Sakhalin (Rwseg: Сахали́н). Saif rhwng Môr Ochotsk a Môr Japan. Hi yw'r fwyaf o ynysoedd Rwsia. Gydag ynysoedd y Kurile mae'n ffurfio oblast Sachalin, un o ranbarthau Rwsia.

Mae arwynebedd yr ynys yn 76,400 km2, a'r boblogaeth tua 673,000. Y ddinas fwyaf, a phrifddinas yr oblast yw Joezjno-Sachalinsk, yn ne yr ynys. Gwahenir yr ynys oddi wrth dir mawr Rwsia gan Gulfor Tatar, sy'n 7.3 km yn ei fan gulaf, ac yn rhewi yn y gaeaf, tra mae Culfor La Pérouse yn ei gwahanu oddi wrth Hokkaido, yr agosaf o ynysoedd Japan.

Arferai'r ynys fod yn eiddo Tsieina, er i Japan geisio ei meddiannu hefyd. Meddiannodd Rwsia yr ynys o'r 18fed ganrif ymlaen, ond parhaodd rhan o dde yr ynys ym meddiant Japan hyd 1875.