Dillad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn newid: bar:Gwand
mwy naturiol
Llinell 2: Llinell 2:


[[Delwedd:Prokudin-Gorskii-19.jpg|200px|bawd|Dillad traddodiadol sy'n dynodi statws: [[Mohammed Ali Khan]], [[Emir]] [[Bokhara]], yn 1944]]
[[Delwedd:Prokudin-Gorskii-19.jpg|200px|bawd|Dillad traddodiadol sy'n dynodi statws: [[Mohammed Ali Khan]], [[Emir]] [[Bokhara]], yn 1944]]
Deunydd naturiol neu artiffisial a wisgir gan [[pobl|bobl]] i amddiffyn neu addurno'r [[corff]], er mwyn bod yn gyffyrddus, i amddiffyn [[lledneisrwydd]] neu i adlewyrchu ystyr a gwerthoedd [[cymdeithas|gymdeithasol]] neu [[crefydd|grefyddol]] yw '''dillad'''.
Deunydd naturiol neu artiffisial a wisgir gan [[pobl|bobl]] yw '''dillad''' i gadw'r corff yn gynnes neu i amddiffyn neu addurno'r [[corff]]. Cânt eu gwisgo hefyd er mwyn bod yn gyffyrddus neu i adlewyrchu gwerthoedd [[cymdeithas|gymdeithasol]] neu [[crefydd|grefyddol]].


Gall dillad amddiffyn y corff dynol rhag peryglon yn yr amgylchedd, e.e. [[tywydd]] eithafol ([[heulwen]] cryf, [[poethder]] neu [[oerni]], [[glaw]], a.y.y.b.), [[pryf]]ed, cemegion, deunydd garw fel carreg, [[arf]]au a pheryglon eraill. Gyda dillad y mae'r corff dynol yn llai agored i niwed ac mae pobl yn medru addasu i sawl [[amgylchedd]].
Gall dillad amddiffyn y corff dynol rhag peryglon yn yr amgylchedd, e.e. [[tywydd]] eithafol ([[heulwen]] cryf, [[poethder]] neu [[oerni]], [[glaw]], a.y.y.b.), [[pryf]]ed, cemegion, deunydd garw fel carreg, [[arf]]au a pheryglon eraill. Gyda dillad y mae'r corff dynol yn llai agored i niwed ac mae pobl yn medru addasu i sawl [[amgylchedd]].

Fersiwn yn ôl 07:14, 21 Chwefror 2012

Baban yn gwisgo sawl dilledyn gaeaf: band pen, cap, côt ffwr, siôl a siwmper.
Dillad traddodiadol sy'n dynodi statws: Mohammed Ali Khan, Emir Bokhara, yn 1944

Deunydd naturiol neu artiffisial a wisgir gan bobl yw dillad i gadw'r corff yn gynnes neu i amddiffyn neu addurno'r corff. Cânt eu gwisgo hefyd er mwyn bod yn gyffyrddus neu i adlewyrchu gwerthoedd gymdeithasol neu grefyddol.

Gall dillad amddiffyn y corff dynol rhag peryglon yn yr amgylchedd, e.e. tywydd eithafol (heulwen cryf, poethder neu oerni, glaw, a.y.y.b.), pryfed, cemegion, deunydd garw fel carreg, arfau a pheryglon eraill. Gyda dillad y mae'r corff dynol yn llai agored i niwed ac mae pobl yn medru addasu i sawl amgylchedd.

Mae pobl wedi bod yn ddyfeisgar iawn dros y canrifoedd yn cynllunio dillad i gwrdd ag anghenion bywyd dan bob math o amgylchiadau. Mae'r term dillad yn gallu cynnwys gwisg arbennig felly nad yw'n cael ei gwisgo fel rheol, e.e. siwt gofod, arfwisg, siwt plymio, costiwn nofio fel y bicini, dillad gyrrwr beic, ac ati.

Galla dillad fod o arwyddocad crefyddol hefyd, e.e. gwisg mynachod neu'r hijab Islamaidd.

Hanes dillad

Yn ôl archaeolegwyr ac anthropolegwyr, gwisgoedd o ffwr neu groen anifeiliaid (lledr), dail neu wair, yn hongian neu'n cael ei lapio neu ei glymu ar y corff i'w amddiffyn rhag yr elfennau oedd y dillad cyntaf. Darganfuwyd nodwyddau cyntefig wedi'u gwneud o ifori neu asgwrn sy'n dyddio i tua 30,000 CC, ger Kostenki, yn yr hen Undeb Sofietaidd, yn 1988. Mae llau dynol yn dyddio i tua 107,000 o flynyddoedd yn ôl wedi eu darganfod hefyd: gan nad yw'r llau yn byw ar y corff noeth fel rheol mae hynny'n awgrymu fod pobl yn gwisgo dillad o ryw fath. Mae'n bosibl fod dillad wedi cael eu dyfeisio gan Homo sapiens pan symudodd i Ewrop o Affrica tua 50,000 - 100,000 o flynyddoedd yn ôl.

Dysgodd pobl sut i wneud dillad allan o ddeunydd o bob math. Erbyn heddiw mae cynhyrchu dillad yn ddiwydiant byd-eang. Ond er bod lllawer o'n dillad yn cael eu gwneud mewn ffatrioedd ers y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif, mewn rhai cymdeithasau mae dillad yn dal i gael ei wneud gan waith llaw.

Deunydd dillad

Mae deunyddiau cyffredin ar gyfer gwneud dillad yn cynnwys ffibrau naturiol:

A ffibrau synthetig neu artiffisial a wneir yn bennaf o sgîl-gynhyrchion y diwydiant petrogemegol:

Mae deunydd llai cyffredin yn cynnwys:

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.