Ieithoedd Goedelaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sq:Gjuhët goidelike
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fa:زبان‌های گائلیک
Llinell 79: Llinell 79:
[[es:Lenguas goidélicas]]
[[es:Lenguas goidélicas]]
[[eu:Hizkuntza goidelikoak]]
[[eu:Hizkuntza goidelikoak]]
[[fa:زبان‌های گائلیک]]
[[fo:Goidelisk mál]]
[[fo:Goidelisk mál]]
[[fr:Langues gaéliques]]
[[fr:Langues gaéliques]]

Fersiwn yn ôl 14:53, 12 Chwefror 2012

Mae 'r ieithoedd Goidelig, a elwir weithiau yr ieithoedd Gaeleg, yn grŵp o ieithoedd sy'n cynnwys Gwyddeleg (Gaeilge), Gaeleg yr Alban (Gàidhlig) a Manaweg (Gaelg). Rhennir yr ieithoedd Celtig sy'n cael eu siarad heddiw yn ieithoedd Goidelig ac ieithoedd Brythonig, sy'n cynnwys Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.

Cyfeirir at yr iaith gysefin y datblygodd yr ieithoedd Goidelig ohoni fel Celteg Q neu Goideleg ac felly gelwir yr ieithoedd Goidelig yn 'ieithoedd Celteg Q' weithiau hefyd, tra gelwir yr iaith gysefin y tyfodd yr ieithoedd Brythonig ohoni yn Gelteg P (Brythoneg: iaith y Brydain Geltaidd ac eithrio gogledd yr Alban, tarddiad yr ieithoedd Brythonig). Cadwodd yr ieithoedd Q y sain Proto-Gelteg *kw, a daeth yn [k]) yn ddiweddarach. Yn yr ieithoedd Brythonig trôdd y sain *kw yn [p]. Ymhlith hen ieithoedd Celtaidd y cyfandir, ceir y [p] mewn Galeg tra'r oedd Celtibereg yn cadw'r *kw.

Proto-Gelteg Galeg Cymraeg Llydaweg Gwyddeleg Gaeleg yr Alban Manaweg
*kwennos pennos pen penn ceann ceann kione
*kwetwar- petuarios pedwar pevar ceathair ceithir kiare
*kwenkwe pinpetos pump pemp cúig còig queig
*kweis pis pwy piv cé (older cia) cò/cia quoi

Credir fod yr ieithoedd Goidelig wedi datblygu fel a ganlyn:

Hyd y gwyddys, dim ond yn Iwerddon yr oedd Goideleg, tardd-iaith yr ieithoedd Goidelig, yn cael ei siarad hyd nes i'r Scotti ymfudo o Iwerddon i orllewin yr Alban rywbryd rhwng y 3edd ganrif a'r 6ed ganrif OC.


v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.