Nordrhein-Westfalen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn newid: rm:Rain dal Nord-Vestfalia |
MystBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn newid: zh:北莱茵-威斯特法伦 |
||
Llinell 115: | Llinell 115: | ||
[[war:Nordrhein-Westfalen]] |
[[war:Nordrhein-Westfalen]] |
||
[[yo:North Rhine-Westphalia]] |
[[yo:North Rhine-Westphalia]] |
||
[[zh:北莱茵 |
[[zh:北莱茵-威斯特法伦]] |
||
[[zh-min-nan:Nordrhein-Westfalen]] |
[[zh-min-nan:Nordrhein-Westfalen]] |
Fersiwn yn ôl 04:46, 9 Chwefror 2012
Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Nordrhein-Westfalen (yn llythrennol 'Gogledd Rhein a Westfalen'). Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad, ar y ffin â'r Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae'n cynnwys nifer o ddinasoedd mawr, gan gynnwys Düsseldorf, prifddinas y dalaith, Cwlen, ei dinas fwyaf, Aachen, Bielefeld, Bonn, Bochum, Essen, Dortmund, Duisburg, Gelsenkirchen, Münster, Oberhausen, Paderborn a Wuppertal.
Daearyddiaeth
Mae Nordrhein-Westfalen yn cynnwys rhan ogleddol y Rheinland (Nordrhein) ac ardal Westfalen. Mae Afon Rhein ei hun yn rhannu'r ddwy ardal oddiwrth ei gilydd, Nordrhein yn y gorllewin, a Westfalen yn y dwyrain. Canol y dalaith yw ardal ddiwydiannol y Ruhr.
Hanes
Crewyd y dalaith gan y weinyddiaeth filwrol Brydeinig ym 1946 allan o rhan ogleddol yr hen Rheinprovinz (Talaith y Rhein) a thalaith Westfalen. Daeth y dalaith newydd â holl ardaloedd y Ruhr at ei gilydd. Gan fod y dalaith newydd o fewn parth meddiannol Prydain, roedd hyn yn sicrhau rheolaeth Prydain dros ardal ddiwydiannol fwya'r Almaen. Ychwanegwyd hen dalaith Lippe ati ym 1947. Mae'r ffiniau wedi aros yr un ers hynny.