Saitama: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ms:Saitama
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: uk:Сайтама (Сайтама)
Llinell 89: Llinell 89:
[[tl:Lungsod ng Saitama]]
[[tl:Lungsod ng Saitama]]
[[tr:Saitama]]
[[tr:Saitama]]
[[uk:Сайтама (Сайтама)]]
[[vi:Saitama (thành phố)]]
[[vi:Saitama (thành phố)]]
[[war:Saitama, Saitama]]
[[war:Saitama, Saitama]]

Fersiwn yn ôl 20:41, 7 Chwefror 2012

Shintoshin (Canol y dref Newydd) yng nghanol Saitama
Erthygl ynglŷn â'r ddinas yw hon. Am dalaith Saitama, gweler Saitama (talaith).

Dinas yn Japan yw Saitama (Japaneg:さいたま市 Saitama-shi), prifddinas talaith Saitama a 10fed dinas fwyaf Japan o ran poblogaeth. Gan ei bod wedi ei lleoli o fewn Ardal Tokyo Fwyaf tua 30 kilometr i'r gogledd o ganol Tokyo mae cyfran fawr o'i phobl yn cymudo i Tokyo. Wedi ei ffurfio ar 1 Mai 2001 a'i dynodi ar 1 Ebrill 2003, mae Saitama yn enghraifft o ddinas dynodedig yn Japan a ddynodwyd trwy ordinhad llywodraeth sydd yn cael eu ffurfio drwy uno trefi a phentrefi cyfagos sydd a phoblogaeth o dros 500,000. Yn wahanol i ran fwyaf o ddinasoedd Japan, ysgrifennir enw'r ddinas gan ddefnyddio'r hiragana, er mai dyma oedd ail ddewis mwyaf poblogaidd gan y cyhoedd mewn pleidlais i ddewis enw newydd y ddinas. Y dewis mwyaf poblogaidd oedd y ffordd draddodiadol o ysgrifennu enw'r ddinas, hynny yw trwy ddefnyddio kanji (埼玉市) fel enw'r dalaith.

Wardiau

Mae i Saitama ddeg o wardiau (ku), pob un a'i liw penodedig ers April 2005:

1 - Chūō-ku (Ystyr: Canol) 中央区 (Pinc tywyll)
2 - Iwatsuki-ku 岩槻区 (Oren)
3 - Kita-ku (Ystyr: Gogledd) 北区 (Gwyrdd tywyll)
4 - Midori-ku (Ystyr: Gwyrdd) 緑区 (Gwyrdd)
5 - Minami-ku (Ystyr: De) 南区 (Melyn)
6 - Minuma-ku 見沼区 (Glas golau)
7 - Nishi-ku (Ystyr: Gorllewin) 西区 (Glas)
8 - Ōmiya-ku (Ystyr: Prif Gysegr) 大宮区 (Oren tywyll)
9 - Sakura-ku (Ystyr: Coeden Geirios) 桜区 (Pinc golau)
10 - Urawa-ku 浦和区 (Coch) - canolfan weinyddol
Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato