Lombok: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: uk:Ломбок
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hu:Lombok
Llinell 30: Llinell 30:
[[gl:Lombok]]
[[gl:Lombok]]
[[hi:लोम्बोक]]
[[hi:लोम्बोक]]
[[hu:Lombok]]
[[id:Pulau Lombok]]
[[id:Pulau Lombok]]
[[it:Lombok]]
[[it:Lombok]]

Fersiwn yn ôl 17:46, 6 Chwefror 2012

Ynys Lombok o'r gofod.

Mae Lombok yn un o ynysoedd Indonesia; un o gadwyn yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, gydag ynys Bali i'r gorllewin ag ynys Sumbawa i'r dwyrain. Y brifddinas yw Mataram. Mae Culfor Lombok rhwng Lombok a Bali yn dynodi'r rhaniad rhwng bywyd gwyllt y rhanbarth Indomalaiaidd yn y gorllewin a'r rhanbarth Awstralasaidd yn y dwyrain. Gelwir y llinell rhwng y rhanbarthau hyn yn Linell Wallace ar ôl Alfred Russel Wallace, y cyntaf i nodi'r gwahaniaeth.

Y mynydd uchaf ar yr ynys yw Mynydd Rinjani (Indoneseg:Gunung Rinjani), 3,726 m (12,224 troedfedd) o uchder, y trydydd uchaf yn Indonesia. Mae 85% o boblogaeth yr ynys yn perthyn i grŵp ethnig y Sasak, gyda 10-15% yn ymfudwyr o Bali.

Gunung Rinjani o Gili Air

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol