David Edward Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.2) (robot yn newid: en:David Edward Hughes |
B commons |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
* Swyddog ac Urdd Brenhinol Leopold (Gwlad Belg). |
* Swyddog ac Urdd Brenhinol Leopold (Gwlad Belg). |
||
{{commons|Category:David Edward Hughes}} |
|||
{{eginyn Cymry|Hughes, David Edward}} |
{{eginyn Cymry|Hughes, David Edward}} |
||
{{eginyn gwyddoniaeth|Hughes, David Edward}} |
{{eginyn gwyddoniaeth|Hughes, David Edward}} |
Fersiwn yn ôl 09:02, 6 Chwefror 2012
Gwyddonydd, telynor a dyfeiswr y teledeipiadur a'r meicroffon oedd David Edward Hughes (16 Mai 1831 – 22 Ionawr 1900).
Dyfeisiodd y teledeipiadur (neu'r telegraph) yn 1855 a'r meicroffon yn 1878.
Yn 1879 gwnaeth arbrawf ddiddorol a brofodd fod ymbelydredd electromagnetig yn bodoli, a hynny pan drosglwyddodd signalau radio o un pen i Great Portland Street, Llundain i'r llall. Roedd hyn wyth mlynedd cyn i Heinrich Hertz gael y clod am wneud yr un peth! Roedd hefyd, ugain mlynedd cyn darllediad radio Marconi. Ystyrir (ym myd gwyddoniaeth) fod y methiant o'i gydanabod yn gam mawr.
Patent
- David E Hughes, Patent UDA Rhif 0014917; Telegraph (gyda'i allweddell yn nhrefn y wyddor a gydag argraffydd ei hun) 20 Mai 1856
- David E Hughes, Patent UDA Rhif 0022531; Duplex Telegraph 4 Ionawr 1859
- David E Hughes, Patent UDA Rhif 0022770; Printing Telegraph (with type-wheel) 25 Ionawr 1859
Anrhydeddau
Mae Hughes yn un o'r gwyddonwyr gyda'r nifer mwyaf o anrhydeddau erioed. Yn eu plith y mae:
- Medal Aur Rhwysgfawr (Y Grand Gold Medal) a gyflwynwyd iddo yn y Paris Exhibition, 1867
- Medal Aur y Gymdeithas Frenhinol yn 1885
- Medal Aur Albert gan Gymdeithas Celfyddydau Prydain yn 1897
- Am ddyfeisio'r Teledeipiadur a'r meicroffon cyflwynodd Napoleon III anrhydedd Chevalier of the Legion of Honour gan ei wneud yn Commander of the Imperial Order of the Legion of Honour.
- Urdd Sant Meurice a Sant Lazare (gan yr Eidal)
- Urdd y Goron Haearn, a'r teitl 'Barwn' (gan Awstria)
- Urdd Santes Ann (Rwsia)
- Urdd Anrhydeddus Sant Michael (Bafaria)
- Cadlywydd Urdd FrenhinolCroes Fawr Medjidie (Twrci)
- Cadlywydd Urddau Carlos III (Sbaen)
- Seren Prif Swyddog Urdd Brenhinol Takovo (Serbia)
- Swyddog ac Urdd Brenhinol Leopold (Gwlad Belg).