Haul: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ckb:خۆر
B r2.6.3) (robot yn ychwanegu: vep:Päiväine
Llinell 215: Llinell 215:
[[uz:Quyosh]]
[[uz:Quyosh]]
[[vec:Sołe]]
[[vec:Sołe]]
[[vep:Päiväine]]
[[vi:Mặt Trời]]
[[vi:Mặt Trời]]
[[vls:Zunne]]
[[vls:Zunne]]

Fersiwn yn ôl 22:25, 3 Chwefror 2012

Yr Haul mewn golau uwchfioled. (Delwedd: NASA)

Yr Haul yw'r seren agosaf at y Ddaear a chanolbwynt Cysawd yr Haul.

Mae'r Haul rhyw 4,000,000,000 o flynyddoedd oed ac mae tua hanner ffordd trwy ei oes. Mae diamedr yr Haul tua 865,000 milltir (1,400,000km), ac mae tua 93,000,000 o filltiroedd (tua 150,000,000km) o'r Ddaear (+/- 1,500,000 milltir / 2,400,000km trwy'r flwyddyn). Mae'n pwyso tua 330,000 gwaith yn fwy na phwysau'r ddaear. Mae'n llosgi drwy ymasiad niwclear sef proses sy'n asio niwclei hydrogen yn ei gilydd gan ei droi'n heliwm.

Yr haul yw ffynhonnell gwres a golau planedau cysawd yr haul. Credir fod tymheredd yr haul yn cyrraedd hyd at 15 miliwn gradd Canradd yn y canol a thymheredd yr wyneb optic tua 5,505 gradd Canradd.

Geirdarddiad

Mae enw'r Haul yn dod o'r gair Brythoneg tybiedig *sāul, sydd yn ei dro yn deillio o'r un gwreiddyn Indo-Ewropeaidd â'r gair Groeg Helios (ἑλιος), a'r gair Lladin Sol.[1] Y gair cyfatebol yn Llydaweg yw heol (Hen Lydaweg: houl).[2] Ym mytholeg Groeg, duw'r haul oedd Helios, a Sol oedd enw'r un duw ym mytholeg y Rhufeiniaid. Yr enw Celtaidd ar dduw'r goleuni oedd Lleu, fel a geir yn y geiriau lleuad a goleu (golau).

Ffenomenau'r Haul

Brycheuyn haul

(gweler:Brycheuyn haul)

Ffenomena dros dro yn ardal ffotosffer yr haul sy'n ymddangos yn weladwy fel smotiau tywyll i'w gymharu efo'r ardaloedd o amgylch.

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol I, tud. 1826.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol I, tud. 1826.


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Mercher
Gwener
Gwener
Y Ddaear
Y Ddaear
Mawrth
Mawrth
Iau
Iau
Sadwrn
Sadwrn
Wranws
Wranws
Neifion
Neifion

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol ak:Ewia