Cambodia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Deb (sgwrs | cyfraniadau) |
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: or:କମ୍ବୋଡିଆ |
||
Llinell 202: | Llinell 202: | ||
[[nov:Kambodia]] |
[[nov:Kambodia]] |
||
[[oc:Cambòtja]] |
[[oc:Cambòtja]] |
||
[[or:କମ୍ବୋଡିଆ]] |
|||
[[os:Камбоджæ]] |
[[os:Камбоджæ]] |
||
[[pa:ਕੰਬੋਡਿਆ]] |
[[pa:ਕੰਬੋਡਿਆ]] |
Fersiwn yn ôl 02:02, 1 Chwefror 2012
| |||||
Arwyddair: Cenedl, Crefydd, Brenin | |||||
Anthem: Nokoreach | |||||
Prifddinas | Phnom Penh | ||||
Dinas fwyaf | Phnom Penh | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Chmereg | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol | ||||
- Brenin | Norodom Sihamoni | ||||
- Prif Weinidog | Hun Sen | ||||
Annibyniaeth - Datganwyd - Cydnabuwyd |
oddiwrth Ffrainc 1949 1953 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
181,035 km² (89ain) 2.5 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 1998 - Dwysedd |
14,071,000 (63) 11,437,656 78/km² (111eg) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $34.67 biliwn (89ain) $2,399 (133ain) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.571 (130ain) – canolig | ||||
Arian cyfred | Riel1 (KHR )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC+7) (UTC+7) | ||||
Côd ISO y wlad | .kh | ||||
Côd ffôn | +855
| ||||
1Defnyddir Doler yr Unol Daleithiau yn eang. |
Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Cambodia neu Cambodia. Arferai'r wlad gael ei galw'n Kampuchea ac mae ganddi boblogaeth o 14 miliwn o drigolion.[1] Mae'n ffinio â Gwlad Thai i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, Laos i'r gogledd-ddwyrain a Fietnam i'r dwyrain a'r de-ddwyrain. I'r de, daw wyneb yn wyneb â Gwlff Gwlad Thai. Dominyddir daearyddiaeth Cambodia gan yr Afon Mekong a'r Tonlé Sap ("y llyn dŵr ffres"), ffynhonnell bwysig o bysgod.
Y Khmeriaid yw'r grŵp ethnig mwyaf a Bwdhaeth yw'r brif grefydd. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Phnom Penh. Cambodia yw'r dalaith olynol i'r Ymerodraeth Khmer Hindw a Bwdhaidd, a reolodd y mwyafrif o'r Penrhyn Indo-Tsieiniaidd rhwng y 11eg ganrif a'r 14eg ganrif.
Gan amlaf, disgrifir person o Gambodia fel "Cambodiad" neu "Khmer", er caiff yr ail derm ei ddefnyddio pan yn disgrifio Khmeriaid ethnig yn unig. Mae'r rhan fwyaf o Gambodiaid yn Fwdistiaid Theravada o dras Khmer, er bod gan y wlad niferoedd sylweddol o Fwslemiaid Cham, yn ogystal a Tsieiniaid, Fietnamiaid a llwythi bychan o'r mynyddoedd.
Prif ddiwydiannau Cambodia yw dillad, twristiaeth ac adeiladu. Yn 2007, daeth dros 4 miliwn o dramorwyr i Angkor Wat.[2] Yn 2005, daethpwyd o hyd o gyflenwadau o olew a nwy naturiol yn nuyfroedd tiriogaethol Cambodia, a phan fydd yr echdyniad yn cychwyn yn 2011, gallai'r arian o'r olew effeithio'n sylweddol ar economi'r wlad.[3] Serch hynny, gallai rhan helaeth o unrhyw elw ddiweddu yn nwylo'r gwleidyddion cefnog os na fydd y sefyllfa'n cael ei fonitro'n ofalus.[4]
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Cambodia
Mae gan Cambodia arwynebedd o 181,035 km sgwâr (69,898 milltir sgwâr), gan rannu ffin o 800 kilomedr (500 mi) gyda Gwlad Thai yn y gogledd a'r gorllewin, ffin o 541 kilomedr (336 mi) gyda Laos yn y gogledd-ddwyrain, a ffin o 1,228 kilomedr (763 mi) gydag Fietnam yn y dwyrain a'r de-ddwyrain. Mae ganddi 443 kilomedr (275 mi) o arfordir ar hyn Gwlff Gwlad Thai. Nodwedd ddaearyddol mwyaf unigryw yw'r paith llynnol, a ffurfiwyd gan lifogydd y Tonle Sap (Y Llyn Mawr), sy'n mesur tua 2,590 kilomedr sgwâr (1,000 milltir sgwâr) yn ystod y tymor sych ac sy'n ehangu i tua 24,605 kilomedr sgwâr (9,500 milltir sgwâr) yn ystod y tymor gwlyb. Mae'r paith poblog hwn, sydd wedi ei neilltuo ar gyfer tyfu reis gwlyb, yng nghefn gwlad Cambodia.
Mae'r rhan fwyaf o'r wlad (tua 75%) ar uchder o 100 medr (330 troedfedd) neu'n îs uwchlaw lefel y môr, ag eithrio'r Mynyddoedd Cardamom (man uchaf 1,813 m / 5,948 troedfedd) a'u hestyniad yn y de-ddwyrain, y Mynyddoedd Dâmrei ("Mynyddoedd yr Eleffantod") (ystod uchder o 500–1,000 m neu 1,640–3,280 troedfedd), yn ogystal â tharenni serth y Mynyddoedd Dângrêk Mountains (uchder cyfartalog 500 m / 1,640 troedfedd) ar hyd y ffin gydag ardal Isan Gwlad Thai. Man uchaf Cambodia ydy Phnom Aoral, ger Pursat yng nghanol y wlad, sy'n 1,813 medr (5,948 troedfedd).
Hanes
- Prif: Hanes Cambodia
Amcangyfrifir fod y dystiolaeth gynharaf o wareiddiad datblygiedig yn y Cambodia fodern yn dod ar ffurf clodweithiau crwn artiffisial o'r mileniwn gyntaf CC.[5] Yn ystod y 3edd, 4edd a'r 5ed ganrif, unodd y taleithiau Indianeiddiedig Funan a Chenla i greu'r hyn a elwir yn Cambodia a de-orllewin Fietnam. Tybir gan y mwyafrif o ysgolheigion fod y taleithiau hyn yn rhai Khmer.[6]
Brenhiniaeth gyfansoddiadol ers 1947 yw Cambodia.
Gwleidyddiaeth
- Prif: Gwleidyddiaeth Cambodia
Diwylliant
- Prif: Diwylliant Cambodia
Economi
- Prif: Economi Cambodia
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) "General Population Census of Cambodia 2008 - Provisional population totals" (PDF). National Institute of Statistics, Ministry of Planning. Medi 3, 2008. Adalwyd ar 22-06-2009.
- ↑ San Miguel eyes projects in Laos, Cambodia, Myanmar. Adalwyd ar 17-07-2009
- ↑ Cambodia hopes to start oil production in 2009, Ek Madra PHNOM PENH, (Reuters). 19-01-2007. Adalwyd ar 17-06-2009
- ↑ Cambodia's oil and mineral wealth sold to corrupt elites: watchdog. Adalwyd ar 17-06-2009
- ↑ Gerd Albrecht: Circular Earthwork Krek 52/62: Recent Research of the Prehistory of Cambodia. Adalwyd 17-07-2009
- ↑ Country Studies Handbook; daw'r wybodaeth o Adran Fyddinol yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 25-07-2009
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol