Powys Fadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 14: Llinell 14:
* 1269–1277 [[Madog II ap Gruffudd]], Arglwydd Dinas Brân
* 1269–1277 [[Madog II ap Gruffudd]], Arglwydd Dinas Brân


* 1277–1289 [[Gruffudd Fychan I]] ap Gruffydd, Arglwydd Dinas Brân
* 1277–1289 [[Gruffudd Fychan I]], Arglwydd Dinas Brân


* 1289–1304 [[Madog Crypl]], Arglwydd [[Glyndyfrdwy]] a [[Cynllaith|Chynllaith Owain]]
* 1289–1304 [[Madog Crypl]], Arglwydd [[Glyndyfrdwy]] a [[Cynllaith|Chynllaith Owain]]

Fersiwn yn ôl 16:39, 5 Mawrth 2007

Powys Fadog neu Powys Maelor oedd y rhan ogleddol o Deyrnas Powys. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, Madog ap Maredudd, yn 1160, a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, Owain Cyfeiliog, y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw Powys Wenwynwyn yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, Gruffudd Maelor I y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, Madog ap Gruffydd Maelor.

Derbyniodd Gruffudd Maelor I gantrefi Maelor ac Iâl fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu Nanheudwy, Cynllaith, Glyndyfrdwy a Mochnant. Pan orchfygwyd Gwynedd gan Edward I yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn Sir Ddinbych a Sir Fflint. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, Gruffudd Fychan I, gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r Mers yn hytrach na thywysogion.


Tywysogion ac arglwyddi Powys Fadog

Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, Maredudd ab Owain Glyndŵr.