Powys Fadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Powys Fadog''' neu ''Powys Maelor'' oedd y rhan ogleddol o [[Teyrnas Powys|Deyrnas Powys]]. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, [[Madog ap Maredudd]], yn [[1160]], a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, [[Owain Cyfeiliog]], y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw [[Powys Wenwynwyn]] |
'''Powys Fadog''' neu ''Powys Maelor'' oedd y rhan ogleddol o [[Teyrnas Powys|Deyrnas Powys]]. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, [[Madog ap Maredudd]], yn [[1160]], a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, [[Owain Cyfeiliog]], y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw [[Powys Wenwynwyn]] yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, [[Gruffydd Maelor I]] y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, [[Madog ap Gruffydd Maelor]]. |
||
Derbyniodd Gruffydd Maelor I [[gantref|cantrefi]] [[Maelor]] ac [[Iâl]] fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu [[Nanheudwy]], [[Cynllaith]], [[Glyndyfrdwy]] a [[Mochnant]]. Pan orchfygwyd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] gan [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn [[Sir Ddinbych]] a [[Sir Fflint]]. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, [[Gruffydd Fychan I]], gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r [[Mers]] yn hytrach na thywysogion. |
Derbyniodd Gruffydd Maelor I [[gantref|cantrefi]] [[Maelor]] ac [[Iâl]] fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu [[Nanheudwy]], [[Cynllaith]], [[Glyndyfrdwy]] a [[Mochnant]]. Pan orchfygwyd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] gan [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn [[Sir Ddinbych]] a [[Sir Fflint]]. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, [[Gruffydd Fychan I]], gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r [[Mers]] yn hytrach na thywysogion. |
Fersiwn yn ôl 16:29, 5 Mawrth 2007
Powys Fadog neu Powys Maelor oedd y rhan ogleddol o Deyrnas Powys. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, Madog ap Maredudd, yn 1160, a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, Owain Cyfeiliog, y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw Powys Wenwynwyn yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, Gruffydd Maelor I y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, Madog ap Gruffydd Maelor.
Derbyniodd Gruffydd Maelor I cantrefi Maelor ac Iâl fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu Nanheudwy, Cynllaith, Glyndyfrdwy a Mochnant. Pan orchfygwyd Gwynedd gan Edward I yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn Sir Ddinbych a Sir Fflint. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, Gruffydd Fychan I, gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r Mers yn hytrach na thywysogion.
Tywysogion ac arglwyddi Powys Fadog
- 1160–1191 Gruffydd Maelor
- 1191– 1236 Madog ap Gruffydd Maelor
- 1236–1269 Gruffydd II ap Madog, Arglwydd Dinas Bran
- 1269–1277 Madog II ap Gruffydd, Arglwydd Dinas Bran
- 1277–1289 Gruffydd Fychan I ap Gruffydd, Arglwydd Dinas Bran
- 1289–1304 Madog Crypl, Arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith Owain
- 1304–c.1325 Madog Fychan, Arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith Owain
- c.1325–1369 Gruffydd Fychan II, Arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith Owain
- 1359–c.1416 Owain Glyndŵr (Owain ap Gruffydd), Arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith Owain
Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, Maredudd ab Owain Glyndŵr.