Corhwyaden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: uk:Чирянка мала |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: ba:Һыҙғыраҡ сөрәгәй |
||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
[[ar:الحذف الشتوي (بطة)]] |
[[ar:الحذف الشتوي (بطة)]] |
||
[[az:Fitçi-cürə]] |
[[az:Fitçi-cürə]] |
||
[[ba:Һыҙғыраҡ сөрәгәй]] |
|||
[[bg:Зимно бърне]] |
[[bg:Зимно бърне]] |
||
[[br:Krag-goañv]] |
[[br:Krag-goañv]] |
Fersiwn yn ôl 18:14, 30 Ionawr 2012
Corhwyaden | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Genws: | Anas |
Rhywogaeth: | A. crecca |
Enw deuenwol | |
Anas crecca Linnaeus, 1758 |
Mae'r Gorhwyaden (Anas crecca) yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd Ewrop and Asia. Yng Ngogledd America mae ffurf debyg iawn, y Gorhwyaden Asgell-werdd Anas carolinensis, oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar.
Mae'r hwyaden yma yn aderyn mudol ac weithiau yn symud cyn belled ag Affrica yn y gaeaf. Yn y gaeaf gellir gweld heidiau o gannoedd ar adegau.
Dyma'r lleiaf o'r genws Anas. Yn ei blu nythu, mae'r ceiliog yn llwyd ar y cefn a'r ochrau gyda melyn o dan y gynffon, darn gwyrdd ar yr adenydd a phen browngoch gyda gwyrdd o gwmpas y llygad. Mae'r iar yn frown neu lwyd, ond gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y rhan fwyaf o hwyaid eraill trwy eu bod yn llai a bod ganddynt wyrdd ar yr adain. Wrth hedfan, mae haid yn medru troi a throsi yn sydyn yn yr awyr, bron fel haid o rydyddion.
Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd lle mae tipyn o dyfiant. Gall pwll bach neu gors fod yn ddigon iddynt fagu cywion. Planhigion yw eu bwyd pennaf. Mae'n aderyn eithaf swnllyd, ac mae gan y ceiliog chwiban glir sy'n nodweddiadol o'r gorhwyaden.
Ychydig o barau o'r Gorhwyaden sy'n nythu yng Nghymru, ond yn y gaeaf mae nifer fawr i'w gweld ar lynnoedd a chorsydd.