Cynhwysiant trydanol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: si:ධාරිත්‍රක
B r2.7.1) (robot yn newid: ar:مواسع
Llinell 34: Llinell 34:
[[af:Kapasitor]]
[[af:Kapasitor]]
[[an:Condensador]]
[[an:Condensador]]
[[ar:مكثف]]
[[ar:مواسع]]
[[arz:المكثف]]
[[arz:المكثف]]
[[az:Kondensator]]
[[az:Kondensator]]

Fersiwn yn ôl 17:06, 25 Ionawr 2012

System sydd â'r gallu i ddal gwefr yw cynhwysydd. Fel rheol, cai cynhwysydd ei wneud gyda dau blât o fetel sydd ac unai aer, gwactod neu unrhyw ddeunydd arall rhyngddynt. Os mae'r ddau blât yn cael eu cysylltu i gyflenwad trydan, bydd gwefrau'n casglu ar y platiau.

Yr hafaliad ar gyfer maint cynhwysiant:

C yw gwerth y cynhwysydd mewn Ffarad; yw gwerth y dialectirc, sy'n gysonyn; yw'r permitifedd golau rhydd; A yw arwynebedd y platiau sy'n wyneb yn wyneb a'i gilydd mewn medrau sgwâr; d yw'r pellter rhwng y ddau blât mewn medrau. Uned cynhwysiant yw'r Ffarad.

Gwelir o'r hafaliad uchod bod cynhwysiant mewn cyfrannedd union ag arwynebedd y platiau ac mewn cyfrannedd wrthdro efo'r pellter rhwng y platiau. Mae hyn yn golygu po fwyaf yw arwynebedd y platiau, y mwyaf yw'r cynhwysiant a hefyd po fwyaf yw'r pellter rhwng y platiau y lleiaf yw'r cynhwysiant.

Gellir hefyd disgrifio cynhwysiant fel gwefr pob folt o drydan efo'r hafaliad:

Q yw gwerth y wefr a fesurir mewn coulombau, C yw'r cynhwysiant ac V yw'r foltedd a fesurir mewn foltiau.

Dadwefriad cynhwysydd a'i defnyddiau

Graff dadwefriad cynhwysydd
Graff dadwefriad cynhwysydd


Gwelir uchod fod y foltedd yn lleihau dros amser mewn ffordd esbonyddol. Mae hyn hefyd yn wir am gerrynt a gwefr drydanol. Cysylltir y rhain gyda'r tri hafaliad isod. Dyma fformiwla gyffredinol.

Defnyddir cynhwysyddion mewn amrywiaeth o ddyfeisiau electronig. Yr esiampl fwyaf amlwg a hawdd i'w deall yw'r fflach ar gamera. Gall cynhwysydd cael ei ddadwefru'n gyflym felly defnyddir cynhwysydd o fewn camera i gael ymchwydd o wefr dros amser byr tra bod y llun yn cael ei dynnu.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol