Canu gwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: si:පසල් සංගීතය |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be:Кантры |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
[[ar:موسيقى الريف]] |
[[ar:موسيقى الريف]] |
||
[[be:Кантры]] |
|||
[[bg:Кънтри]] |
[[bg:Кънтри]] |
||
[[bs:Country]] |
[[bs:Country]] |
Fersiwn yn ôl 05:32, 20 Ionawr 2012
Math o gerddoriaeth boblogaidd yw canu gwlad sydd â'i gwreiddiau yn nhraddodiad baledi hillbilly mynyddoedd yr Appalachians yn yr Unol Daleithiau. Dylanwad arall oedd y caneuon cowboi (felly'r enw Saesneg Country and Western, er mai Country Music neu Country yw'r enw mwy ffasiynol heddiw). Mae gan ganu gwlad bwyslais ar leisiau mewn cytgord a geiriau sy'n adlewyrchu profiad y werin gyffredin. Yn aml mae'n sentimental iawn.
Sonnir heddiw am 'Ganu Gwlad Newydd' neu Progressive Country hefyd, wrth i genhedlaeth newydd chwilio am burdeb gwreiddiol y canu traddodiadol ar y naill law ac ar yr un pryd arbrofi efo thechnegau mwy diweddar, o fyd roc er enghraifft.
Mae cerddorion canu gwlad yr "hen ysgol" yn cynnwys Dolly Parton a Linda Ronstadt ac, i raddau, Emmylou Harris. Mae rhai o'r grwpiau diweddar yn cynnwys Alison Krauss ac Union Station, sydd wedi gwneud albymau gyda'i gilydd, a'r Dixie Chicks â'i harmonis anhygoel.
Yng Nghymru cafodd canu gwlad ddylanwad mawr ar gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg o'r 1960au ymlaen, gyda sêr fel Tony ac Aloma yn boblogaidd iawn. Mae canu gwlad yn dal yn boblogaidd iawn gyda chantorion fel Wil Tan, Alister James, ac yn ddiweddar iawn Meinir Ann.