Tennyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gl:Ligamento
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: oc:Ligament
Llinell 65: Llinell 65:
[[lt:Raištis]]
[[lt:Raištis]]
[[nl:Ligament (anatomie)]]
[[nl:Ligament (anatomie)]]
[[oc:Ligament]]
[[pl:Więzadło]]
[[pl:Więzadło]]
[[pt:Ligamento]]
[[pt:Ligamento]]

Fersiwn yn ôl 23:26, 19 Ionawr 2012

Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tendon.

Mae tennyn neu gewyn (Saesneg: Ligament) mewn anatomeg, yn air a ddefnyddir am dri fath o strwythur o fewn y corff:[1]

  1. Meinwe ffibrog sy'n cysylltu esgyrn ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol"[2], "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau".
  2. Plyg y peritonewm neu bilen arall.
  3. Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod ffoetaidd o fywyd.

Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term tennyn.

Desmoloeg yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r Hen Roeg δεσμός, desmos, "tant" neu "llinyn"; a -λογία, -logia.

Tennynau peritonewm

Cyfeirir at rhai o blygiau'r peritonewm fel tennynau.

Mae esiamplau yn cynnwys:

Tennyn gweddill ffoetaidd

Cyfeirir at rhai strwythrau tiwbaidd sy'n weddill o'r cyfnod ffoetaidd fel tennynau ar ôl iddynt gau a throi i mewn i drwythrau tebyg i linyn:

Ffoetws Oedolyn
ductus arteriosus ligamentum arteriosum
Rhan rhagorol-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws ligamentum teres hepatis ("tennyn crwn yr iau").
Rhan mewn-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws (y ductus venosus) ligamentum venosum
Rhannau distal rhydweli wmbilig chwith a dde y ffoetws medial umbilical ligaments

Tennyn cymalol

Diagrammatic section of a symphysis.

Yn y ffurf a gyfeirir ato gan amlaf, rhwymyn byr o meiwe gysylltol rheolaidd dwys sy'n galed a ffibrog yw tennyn . Cyfansoddir yn bennaf o ffibrau hir llinynnog colagen. Mae tennynau'n cysylltu esgyrn at esgyrn eraill i ffurfio cymal. (Nid ydynt yn cysylltu cyhyrau â'r esgyrn, tendonnau sy'n gwneud hyn.) Mae rhai tennynau'n cyfyngu rhai symudiadau, neu'n atal eraill yn gyfan gwbl.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Nodyn:EMedicineDictionary
  2. Nodyn:DorlandsDict