Sieffre o Fynwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Vita Merlini |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Roedd '''Sieffre o Fynwy''' (c.1100 - c.1155) yn glerigwr fu'n Esgob [[Llanelwy]]. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau [[Lladin]] am hanes cynnar [[Ynys Prydain]], yn enwedig am y [[Brenin Arthur]]. Er nad oes dim gwerth iddynt fel hanes, cawsant ddylanwad enfawr yng Nghymru a thrwy orllewin [[Ewrop]]. |

==Bywyd== |
|||
Ni wyddys ymhle y ganed Sieffre, ond mae ei enw yn awgrymu mai yn ne--ddwyrain Cymru y ganed ef. Mae ei ddisgrifiad o [[Caerllion|Gaerllion]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd a'r ardal. Roedd ei deulu yn wreiddiol o [[Llydaw|Lydaw]]. Aeth i [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]] ac ar 21 Chwefror [[1152]] cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy gan [[Archesgob Caergaint]]. Nid oes cofnod iddo ymweld a'i esgobaeth, oedd yn rhan o deyrnas [[Owain Gwynedd]]. Bu Owain yn dadlau'n ffyrnig ag Archesgob Caergaint ynglyn a phenodiad [[Esgob Bangor]]; nid oes cofnod a oedd penodiad Sieffre i Lanelwy yn dderbyniol iddo. |

==Gweithiau== |
|||
Llyfr cyntaf Sieffre oedd y ''Prophetiae Merlini'' ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin [[Myrddin]] ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw [[Cymraeg]], a chafodd dderbyniad brwd. |

Fersiwn yn ôl 08:17, 3 Mawrth 2007
Roedd Sieffre o Fynwy (c.1100 - c.1155) yn glerigwr fu'n Esgob Llanelwy. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau Lladin am hanes cynnar Ynys Prydain, yn enwedig am y Brenin Arthur. Er nad oes dim gwerth iddynt fel hanes, cawsant ddylanwad enfawr yng Nghymru a thrwy orllewin Ewrop.
Bywyd
Ni wyddys ymhle y ganed Sieffre, ond mae ei enw yn awgrymu mai yn ne--ddwyrain Cymru y ganed ef. Mae ei ddisgrifiad o Gaerllion yn ei Historia Regum Britanniae yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd a'r ardal. Roedd ei deulu yn wreiddiol o Lydaw. Aeth i Brifysgol Rhydychen ac ar 21 Chwefror 1152 cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy gan Archesgob Caergaint. Nid oes cofnod iddo ymweld a'i esgobaeth, oedd yn rhan o deyrnas Owain Gwynedd. Bu Owain yn dadlau'n ffyrnig ag Archesgob Caergaint ynglyn a phenodiad Esgob Bangor; nid oes cofnod a oedd penodiad Sieffre i Lanelwy yn dderbyniol iddo.
Gweithiau
Llyfr cyntaf Sieffre oedd y Prophetiae Merlini ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin Myrddin ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw Cymraeg, a chafodd dderbyniad brwd.
Gwaith enwocaf Sieffre oedd yr Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain). Mae'n adrodd hanes Ynys Prydain o ddyfodiad Brutus o Gaerdroea, disgynnydd Aeneas, hyd farwolaeth Cadwaladr yn y 7fed ganrif. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynhonnellau Sieffre oedd gweithiau Gildas (De Excidio Britanniae), Beda a Nennius, ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.
Rhwng 1149 a 1151 ysgrifennodd Sieffre gerdd, Vita Merlini ("Bywyd Myrddin"), yn ailadrodd hanes Myrddin o'r traddodiad Cymraeg.
Bu dylanwad gweithiau Sieffre yn enfawr trwy orllewin Ewrop. Cafodd yr Historia ei gyfieithu i lawer o ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg dan y teitl Brut y Brenhinedd. Ymddengys mai fel dilyniant i'r Historia Regum Britanniae y bwriadwyd Brut y Tywysogion. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu y ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin o'r Canol Oesoedd gyda marchogion oedd yn batrwm o sifalri. Yng Nghymru bu ei ddylanwad yn arbennig o drwm a pharhaodd am ganrifoedd lawer, fel y gwelir yng nghyfrol Theophilus Evans Drych y Prif Oesoedd.
Llyfryddiaeth
- Geoffrey of Monmouth. The History of the Kings of Britain. Translated, with introduction and index, by Lewis Thorpe. Penguin Books: London, 1966. ISBN 0-14-044170-0
- Brynley F. Roberts. "Geoffrey of Monmouth, Historia Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd". Yn The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature gan R. Bromwich, A. O. H.Jarman a Brynley F. Roberts, tt.97-116. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
- John Jay Parry and Robert Caldwell. "Geoffrey of Monmouth" in Arthurian Literature in the Middle Ages, Roger S. Loomis (ed.). Clarendon Press: Oxford University. 1959. ISBN 0-19-811588-1