Eudaf Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: de:Eudaf Hen |
B r2.7.2) (robot yn newid: en:Eudaf Hen |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
[[de:Eudaf Hen]] |
[[de:Eudaf Hen]] |
||
[[en: |
[[en:Eudaf Hen]] |
||
[[nl:Octavius (koning)]] |
[[nl:Octavius (koning)]] |
Fersiwn yn ôl 18:51, 5 Ionawr 2012
Yn ôl traddodiad, un o frenhinoedd cynnar y Brythoniaid yng nghyfnod y Rhufeiniaid oedd Eudaf neu Eudaf Hen. Ceir gwahanol draddodiadau amdano sy'n anodd cysoni â'i gilydd. Does dim tystiolaeth hanesyddol o gwbl i ategu'r traddodiadau hynny.
Yn y fersiynau Cymraeg Canol o'r ffug-hanes enwog Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy ceir chwedl "Eudaf, Iarll Ewias ac Ergyng" yn ne-ddwyrain Cymru. "Octavius Dug Wessex" a geir yn y testun Lladin gwreiddiol, ond Eudaf sydd yn y testunau Cymraeg fel Brut Dingestow. Mae'r brut yn honni ei fod yn un o ddisgynyddion Caradog, arweinydd y Silwriaid yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl Sieffre, cododd Eudaf/Octavius mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid ar ôl ymadawiad Cystennin am Rufain a daeth yn "Uchel Frenin Ynys Prydain" ar ôl curo Trahaearn, brawd Coel Hen. Dywedir iddo deyrnasu am gyfnod hir, gan ennill i'w hun yr enw 'Eudaf Hen'. [1]
Cyfeirir at Eudaf yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yno mae'n dad i Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig (mae traddodiadau eraill yn gwneud Elen yn ferch i Goel Hen o'r Hen Ogledd) ac yn byw yn ardal Segontiwm yn Arfon, Gwynedd. Yn ôl y Breuddwyd, mae Cynan Meiriadog yn fab iddo ac felly'n chwaer i Elen.[2]