Lombok: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MystBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ar:جزيرة لومبوك |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: uk:Ломбок |
||
Llinell 49: | Llinell 49: | ||
[[th:เกาะลอมบอก]] |
[[th:เกาะลอมบอก]] |
||
[[tr:Lombok]] |
[[tr:Lombok]] |
||
[[uk:Ломбок]] |
|||
[[vi:Lombok]] |
[[vi:Lombok]] |
||
[[wuu:隆波岛]] |
[[wuu:隆波岛]] |
Fersiwn yn ôl 14:37, 3 Ionawr 2012
Mae Lombok yn un o ynysoedd Indonesia; un o gadwyn yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, gydag ynys Bali i'r gorllewin ag ynys Sumbawa i'r dwyrain. Y brifddinas yw Mataram. Mae Culfor Lombok rhwng Lombok a Bali yn dynodi'r rhaniad rhwng bywyd gwyllt y rhanbarth Indomalaiaidd yn y gorllewin a'r rhanbarth Awstralasaidd yn y dwyrain. Gelwir y llinell rhwng y rhanbarthau hyn yn Linell Wallace ar ôl Alfred Russel Wallace, y cyntaf i nodi'r gwahaniaeth.
Y mynydd uchaf ar yr ynys yw Mynydd Rinjani (Indoneseg:Gunung Rinjani), 3,726 m (12,224 troedfedd) o uchder, y trydydd uchaf yn Indonesia. Mae 85% o boblogaeth yr ynys yn perthyn i grŵp ethnig y Sasak, gyda 10-15% yn ymfudwyr o Bali.