Canolbarth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B Terminoleg |
B Gramadeg |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
===Awdurdodau unedol=== |
===Awdurdodau unedol=== |
||
Creuwyd yr awdurdodau unedol yn 1996. |
Creuwyd yr awdurdodau unedol yn 1996. |
||
*[[Ceredigion]] (yn cyfateb, gyda mân newidiadau, i |
*[[Ceredigion]] (yn cyfateb, gyda mân newidiadau, i sir draddodiadol Aberteifi) |
||
*[[Powys]] |
*[[Powys]] |
||
Fersiwn yn ôl 02:16, 31 Rhagfyr 2011
Un o ranbarthau answyddogol Cymru sydd yng nghanol y wlad yw Canolbarth Cymru. Mae'n ffinio â Gogledd Cymru i'r gogledd, Gororau Lloegr i'r dwyrain, De a Gorllewin Cymru i'r de a Bae Ceredigion i'r gorllewin. Mae'n cynnwys bryniau'r Elenydd, Fforest Faesyfed a rhan o'r Berwyn, a'r afonydd Teifi, Gwy, Hafren ac Ystwyth.
Disgrifiad
Yn hanesyddol, roedd Canolbarth Cymru yn cynnwys Teyrnas Powys a gogledd-ddwyrain Teyrnas Deheubarth. Yn weinyddol, mae'n cynnwys awdurdodau unedol Ceredigion a Phowys.
Ceir ymraniadau sylweddol yn ddaearyddol a diwylliannol o fewn y rhanbarth. I'r gorllewin o fynydd Pumlumon a bryniau Elenydd ceir Ceredigion, sir sy'n wynebu ar Fae Ceredigion ac yn perthyn yn agosach, yn hanesyddol, i Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin (de-orllewin Cymru) nag i Bowys. Mae awdurdod lleol Powys yntau, sef dwyrain y rhanbarth, yn llawer mwy Cymraeg yn y parthau gorllewinol nag yn yr ardaloedd ar hyd y ffin â Lloegr a fu'n rhan o'r Mers canoloesol. Mae cryn wahaniaeth rhwng gogledd a de Powys hefyd.
Unedau gweinyddol, hen a newydd
Awdurdodau unedol
Creuwyd yr awdurdodau unedol yn 1996.
- Ceredigion (yn cyfateb, gyda mân newidiadau, i sir draddodiadol Aberteifi)
- Powys
Siroedd cadwedig
Dyma'r siroedd a greuwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.
- Dyfed (gorwedd Ceredigion yng ngogledd yr hen sir)
- Powys (mae Powys yn cyfrif fel 'sir gadwedig' yn ogystal â bod yn awdurdod unedol cyfoes)
Siroedd gweinyddol
Creuwyd y siroedd hyn dan y Ddeddf Llywodraeth Leol yn 1888. Cawsant eu seilio ar y siroedd traddodiadol, ond nid oeddynt yn union yn union yr un fath. Roedd y siroedd gweinyddol yn cael eu defnyddio ar gyfer llywodraeth leol tan 1974.
Gweler hefyd
Rhanbarthau Cymru | |
---|---|
Canolbarth | De | Gogledd | Gorllewin |