George Fox: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: sv:George Fox |
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: eu:George Fox |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[eo:George Fox]] |
[[eo:George Fox]] |
||
[[es:George Fox]] |
[[es:George Fox]] |
||
[[eu:George Fox]] |
|||
[[fi:George Fox]] |
[[fi:George Fox]] |
||
[[fr:George Fox]] |
[[fr:George Fox]] |
Fersiwn yn ôl 12:40, 29 Rhagfyr 2011
Arweinydd crefyddol o Sais a sylfaenydd Crynwriaeth a Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion oedd George Fox (1624 - 1691). Fe'i ganwyd yn Fenny Drayton, Swydd Gaerlŷr, Lloegr.
Cafodd ei fagu yn Biwritan ond yn ddyn ifanc cafodd weledigaeth o'r "goleuni mewnol" a dechreuodd ymosod yn eiriol ar yr eglwys sefydledig a ffurfioldeb o bob math mewn crefydd. Dechreuodd bregethu yn 1647. Ni fedrai oddef offeiriaid o unrhyw fath, na milwyr a milwriaeth. Dioddefodd ef a'i ddilynwyr erledigaeth am flynyddoedd.
Ymwelodd â Chymru a'r Alban lle enillodd ddilynwyr newydd. Teithiodd yn ogystal i Jamaica, Barbados, America, Yr Iseldiroedd a'r Almaen. Ymhlith ei brif disgyblion oedd John ap John yng Nghymru, Robert Barclay a William Penn, sylfaenydd Pennsylvania a fu'n gartref i nifer fawr o Grynwyr alltud.
Llyfryddiaeth
- Journal (1874). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.