Rygbi'r undeb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: cs:Ragby, id:Uni rugbi, sco:Rugby union
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ang, hi, ja, sh, su
Llinell 68: Llinell 68:
{{eginyn chwaraeon}}
{{eginyn chwaraeon}}


[[ang:Hrōcburhȝesamnunȝe pleȝa]]
[[ar:اتحاد الرغبي]]
[[ar:اتحاد الرغبي]]
[[ca:Rugbi a 15]]
[[ca:Rugbi a 15]]
Llinell 78: Llinell 79:
[[fr:Rugby à XV]]
[[fr:Rugby à XV]]
[[gd:Rugbaidh]]
[[gd:Rugbaidh]]
[[hi:रग्बी यूनियन]]
[[hr:Rugby union]]
[[hr:Rugby union]]
[[hy:Ռեգբի 15]]
[[hy:Ռեգբի 15]]
Llinell 83: Llinell 85:
[[id:Uni rugbi]]
[[id:Uni rugbi]]
[[it:Rugby a 15]]
[[it:Rugby a 15]]
[[ja:ラグビーユニオン]]
[[ko:럭비 유니온]]
[[ko:럭비 유니온]]
[[la:Harpastum XV]]
[[la:Harpastum XV]]
Llinell 93: Llinell 96:
[[ru:Регби-15]]
[[ru:Регби-15]]
[[sco:Rugby union]]
[[sco:Rugby union]]
[[sh:Rugby union]]
[[simple:Rugby union]]
[[simple:Rugby union]]
[[su:Rugbi union]]
[[tr:Ragbi birliği]]
[[tr:Ragbi birliği]]
[[zh:橄欖球]]
[[zh:橄欖球]]

Fersiwn yn ôl 01:24, 23 Rhagfyr 2011

Chwaraeon cyswllt llawn ydy Rygbi'r Undeb. Math o bêl-droed ydyw a ddechreuodd yn Lloegr ar ddechrau'r 19eg ganrif [1] Un o reolau rygbi yw bod hawl rhedeg gyda'r bêl yn eich dwylo. Chwaraeir y gêm gan ddefnyddio pêl hirgrwn, ar ddarn laswellt gan amlaf sydd yn 100m o hyd a 70m o led. Ar bob pen, ceir dwy gôl siap y lythyren H.

Dywedir yn aml mai William Webb Ellis a grëodd y gêm o redeg tra'n dal y bêl ym 1823 yn Ysgol Rugby pan dywedir iddo ddal y bêl tra'n chwarae pêl-droed gan redeg at gôl y gwrthwynebwyr. Er mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi'r hanes hwn, anfarwolwyd stori Ellis yn yr ysgol pan ddatguddiwyd cofed iddo ym 1895. Ym 1848, ysgrifennwyd y rheolau cyntaf gan ddisgyblion - dyma oedd un o'r digwyddiadau cydnabyddedig yn natblygiad cynnar rygbi; mae datblygiadau eraill yn cynnwys penderfyniad Clwb Blackheath i adael Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ym 1863, a'r rhanniad rhwng rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair ym 1895. Y corff sy'n rheoli Rygbi'r Undeb yng Nghymru yw Undeb Rygbi Cymru.

Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.

Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Ewrop a'r Tri Nations yn hemisphere y de yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys y 14 Uchaf yn Ffrainc, y Guinness Premiership yn Lloegr, y Cwpan Currie yn Ne Affrica, a'r Cwpan Air New Zealand yn Seland Newydd. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y Gynghrair Magners (sef cystadleuaeth rhwng y gwledydd Celtaidd), sy'n cynnwys y Gwyddelod, Albanwyr a'r Cymry; y Super 14, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r Cwpan Heineken, sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.

Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.

Safleoedd ar y maes

Blaenwyr

Prif gyfrifoldeb y blaenwyr yw ennill a chadw y meddiant. Mae'r blaenwyr fel arfer yn fwy ac yn gryfach, ac yn cymryd rhan yn y sgrym a'r llinell.

Rheng flaen

Mae'r rheng flaen yn cynwys y ddau brop - y prop pen rhydd a'r prop pen tyn, a'r bachwr yn y canol. Gwaith y ddau brop yw cefnogi'r bachwr yn y scrym ac i roi cefnogaeth i'r neidiwr yn y llinell, ac i roi cryfder a nerth yn y ryc a'r sgarmes.

Rhif 1 Prop pen rhydd
Rhif 2 Bachwr
Rhif 3 Prop pen tyn

Ail reng

Rhif 4 a 5 Clo (x 2)

Trydydd reng

Rhif 6 a 7 Blaenasgellwr (x 2)
Rhif 8 Wythwr


Cefnwyr

Rhif 9 Mewnwr
Rhif 10 Maswr
Rhif 12 a 13 Canolwr (x 2)
Rhif 11 a 14 Asgellwr (x 2)
Rhif 15 Cefnwr

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Origins of Rugby - Codification -"The innovation of running with the ball was introduced some time between 1820 and 1830."
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.