Thiamin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hy:Թիամին |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ta:தயமின் |
||
Llinell 76: | Llinell 76: | ||
[[su:Tiamin]] |
[[su:Tiamin]] |
||
[[sv:Tiamin]] |
[[sv:Tiamin]] |
||
[[ta:தயமின்]] |
|||
[[tg:Тиамин]] |
[[tg:Тиамин]] |
||
[[th:ไทอามีน]] |
[[th:ไทอามีน]] |
Fersiwn yn ôl 11:26, 17 Rhagfyr 2011
Adnabyddir y term cemegol thiamin hefyd gan yr enwau fitamin B1 ac aneurine hydrochloride, sef teulu o foleciwlau sy'n rhannu yr un math o strwythur. Ei ffurf arferol yw fel cemegolyn di-liw gyda fformiwla gemegol o C12H17N4OS. Mae'r math hwn o thiamin yn hydoddi mewn dŵr, methanol a glyserol ond nid mewn aseton, ether, clorofform na bensen ('benzene'). Math arall o thiamin yw TTFD, sydd â nodweddion hydoddi hollol wahanol, ac yn perthyn i'r teulu hwnnw o fitaminau sy'n hydoddi mewn olew. Mae ganddo gylch pyramidin a chylch thiasol.
Yn y corff dynol, mae'n holl bwysig ar gyfer metabolism iach (o ran carbohydrad iach) ac ar gyfer y system nerfol. Gall diffyg thiamin arwain at beriberi gyda phroblemau gyda'r galon a'r nerfau yn amlygu eu hunain. Mae ychydig o ddiffyg thiamin yn rhoi symtomau megis colli pwysau, 'malaise' a dryswch.
Ffynhonnell
Mae ychydig bach o thiamin i'w ddarganfod mewn llawer iawn o fwydydd. Iau ('Afu') a burum ydy ffynhonnell bwysicaf y fitamin hwn. Dyma lefydd eraill:[1]
- Burum
- Ceirch
- Reis brown
- Blawd cyflawn (rhug neu ŷd)
- Asparagws
- Bresych
- Blodfresych
- Tatws
- Orenau
- Porc
- Ham
- Iau (mochyn neu gig eidion)
- Wyau
Cyfeiriadau
- ↑ Combs GF. The vitamins: fundamental aspects in nutrition and health. 3rd Ed. Elsevier: Boston, 2008.