Cronfa Nant-y-moch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn newid: en:Nant-y-moch Reservoir |
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau) B wedi symud Cronfa Nant-y-Moch i Cronfa Nant-y-moch: Orgraff |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:28, 15 Rhagfyr 2011
Cronfa ddŵr yng Ngheredigion yw Cronfa Nant-y-Moch, a leolir ychydig i'r gorllewin o gopa Pumlumon. Ffurfiwyd y gronfa, sydd ag arwynebedd o 66.8 cilometr sgwar, yn 1964 trwy adeiladu argae ar draws Afon Rheidol. Saif yr argae rhyw dair milltir i'r gogledd o bentref Ponterwyd ym mryniau Elenydd.
Enwir y gronfa ar ôl ffrwd fechan Nant-y-moch, un o ledneintiau Afon Rheidol, nant a roddodd ei enw i bentref bychan Nant-y-moch hefyd. Adeiladwyd y gronfa fel rhan o gynllun trydan dŵr Cwm Rheidol. Boddwyd pentref Nant-y-Moch a symudwyd y cyrff o'r fynwent i fynwent Ponterwyd. Symudwyd nifer o garneddi o Oes yr Haearn gan archaeolegwyr hefyd.