Bwncath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Vargenau (sgwrs | cyfraniadau) B Dadwneud y golygiad 1033066 gan MerlIwBot (Sgwrs | cyfraniadau) |
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: eo:Komuna buteo |
||
Llinell 43: | Llinell 43: | ||
[[de:Mäusebussard]] |
[[de:Mäusebussard]] |
||
[[en:Common Buzzard]] |
[[en:Common Buzzard]] |
||
[[eo:Komuna buteo]] |
|||
[[es:Buteo buteo]] |
[[es:Buteo buteo]] |
||
[[et:Hiireviu]] |
[[et:Hiireviu]] |
Fersiwn yn ôl 16:07, 15 Rhagfyr 2011
Bwncath | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Falconiformes |
Teulu: | Accipitridae |
Genws: | Buteo |
Rhywogaeth: | B. buteo |
Enw deuenwol | |
Buteo buteo (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Bwncath (hefyd Boncath a Boda; Lladin: Buteo buteo) yn aderyn rheibiol sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o Ewrop, Asia ac, yn y gaeaf, Affrica. Mae tua 51-57 cm o hyd a rhwng 110 a 130 cm ar draws yr adenydd. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, on mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.
Mae fel rheol yn nythu mewn coeden, ond yn hela dros dir agored. Oherwydd hyn, mae'n hoffi tiriogaeth lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwyta mamaliaid bach yn bennaf, yn cynnwys llygod, llygod mawr a chwningod, ond mae hefyd yn bwyta anifeiliad wedi marw, cywion adar a phethau eraill.
Fel rheol gellir gweld pâr neu ddau bâr o Fwncathod yn troelli yn yr awyr uwchben eu tiriogaeth yn y ganwyn, ac yn tynnu sylw trwy eu galwadau piii-âw, nid anhebyg i gathod. Ambell dro gellir gweld mwy ohont gyda'i gilydd, weithiau hyd at 40 ar y tro.
Yng Nghymru yr oedd y Bwncath wedi mynd yn aderyn prin erbyn dechrau'r 20fed ganrif, i raddau helaeth oherwydd ei fod yn cael ei ddifa gan giperiaid. Bellach mae amddiffyniad cyfreithiol iddo ac mae wedi dod yn aderyn cyffredin iawn trwy Gymru, ac yn lledaeni i'r dwyrain. Mae'n fwy cyffredin ar dir cymharol isel nag yn y mynyddoedd.