Golwg360: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
fformat
Dim crynodeb golygu
Llinell 20: Llinell 20:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}



[[Categori:Gwefan]]
[[Categori:Y wasg Gymraeg]]
[[Categori:Cylchgronau yn ôl iaith|Cymraeg]]
[[Categori:Gwefannau Cymaeg]]
[[Categori:Cyfryngau Cymraeg]]
[[Categori:Sefydliadau 2009]]

Fersiwn yn ôl 15:10, 12 Rhagfyr 2011

Mae Golwg360 yn wasanaeth newyddion dyddiol arlein a lansiwyd ym mis Mai 2009.

Ariennir Golwg360 trwy gymysgedd o grant cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru a gwerthiant hysbysebion a gwasanaethau masnachol drwy'r wefan. Cafodd grant ddechreuol o £600,000 dros gyfnod o dair mlynedd, gan roi diwedd ar obeithion Dyddiol Cyf ar gyfer cael arian cyhoeddus ar gyfer papur dyddiol print Cymraeg Y Byd. Ym Mawrth 2011 cafodd Golwg360 estyniad i'w grant am dair mlynedd arall wedi adroddiad ffafriol gan Wavehill Consulting.[1][2]

Er bod cryn gydweithio rhwng Cylchgrawn Golwg a Golwg360 ar sawl lefel, rhedir y ddau wasanaeth newyddion fel busnesau ar wahân gyda'u golygyddion eu hunain. Owain Schiavone yw prif-weithredwr Golwg360; a Bethan Lloyd yw'r golygydd presennol, sydd yn cymryd lle Ifan Morgan Jones fu'n olgydd rhwng Mai 2009 a Medi 2011.[3]

Mae prif adrannau y wefan yn cynnwys:

  • Newyddion
  • Chwaraeon
  • Celfyddydau
  • Calendr
  • Blog
  • Bwyd
  • Lle Pawb
  • Adran Swyddi

Ers i wasanaeth newyddion BBC Cymru roi'r gorau i gyhoeddi newyddion Prydeinig a rhyngwladol, Golwg360 yw'r unig fan gyhoeddwr print lle gellir darllen straeon newyddion dyddiol sydd ddim â ffocws penodol Cymreig.[4]

Cyfeiriadau