Afon Yenisei: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: tt:Енисей (deleted)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: pnb:دریاۓ ینیسے
Llinell 48: Llinell 48:
[[no:Jenisej]]
[[no:Jenisej]]
[[pl:Jenisej]]
[[pl:Jenisej]]
[[pnb:دریاۓ ینیسے]]
[[pt:Rio Ienissei]]
[[pt:Rio Ienissei]]
[[ro:Enisei]]
[[ro:Enisei]]

Fersiwn yn ôl 16:13, 10 Rhagfyr 2011

Rhwydwaith afonol Afon Yenitsei

Afon fawr yng nghanolbarth Rwsia yw Afon Yenisei (Rwseg: Енисе́й). Dyma'r afon fwyaf i lifo i'r Cefnfor Arctig, sydd hefyd, gyda hyd o 5,539 km (3,445 milltir), y bumed afon yn y byd o ran ei maint. Gan darddu ym Mongolia, mae'n llifo ar gwrs i gyfeiriad y gogledd i lifo i mewn i Gwlff Yenisei ar y Môr Kara. Yn Siberia mae nifer fawr o afonydd llai yn aberu ynddi, yn cynnwys Afon Angara, sy'n tarddu yn Llyn Baikal, ac Afon Tunguska Isaf.

Afon Yenisei yn llifo heibio i Krasnoyarsk
Afon Yenisei yn llifo heibio i Krasnoyarsk

Yn ei rhannau uchaf mae'n llifo trwy ardaloedd anghysbell lle nad oes llawer o bobl yn byw. Yn ei chwrs canol ceir cyfres o argaeau trydan dŵr sy'n ffynhonnell ynni bwysig yng nghanolbarth Rwsia. Cafodd rhai o'r argaeau hyn eu codi gan lafur penyd o'r gulags ac mae llygredd yn broblem heddiw. Mae'n llifo yn ei blaen i'r gogledd trwy ardal o dirwedd taiga eang, gan dderbyn nifer fawr o afonydd a ffrydiau, i gyrraedd Môr Kara mewn ardal o dirwedd tundra lle mae'n rhewi am hanner y flwyddyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.