Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cys all
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llyfrydd
Llinell 5: Llinell 5:
Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda canolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw [[Golan, Gwynedd|Golan]].

===Llyfryddiaeth===
==Cysylltiadau allanol==
* Lynch, Frances (1995) ''Gwynedd'' (''A guide to ancient and historic Wales'') (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1

===Cysylltiadau allanol===
[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/hanes/pages/mart_bryncir.shtml Hanes mart Bryncir]
[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/hanes/pages/mart_bryncir.shtml Hanes mart Bryncir]

Fersiwn yn ôl 18:08, 23 Chwefror 2007

Mae Bryncir yn bentref yn Eifionydd, Gwynedd. Saif ar y briffordd A487 rhwng Pant Glas a Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw Afon Dwyfach.

Gellir gweld nifer o hynafiathau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r 6ed ganrif gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda canolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw Golan.

Llyfryddiaeth

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1

Cysylltiadau allanol

Hanes mart Bryncir