Y Scarlets: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
AlunJ (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 50: Llinell 50:
Yn 2003, penderfynodd [[Undeb Rygbi Cymru]] newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bump rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Africa. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau.
Yn 2003, penderfynodd [[Undeb Rygbi Cymru]] newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bump rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Africa. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau.


Yn swyddogol mae Scarlets Llanelli yn cynrycholi Gorllewin a Gogledd Cymru gyda rhan fwyaf o'r gemau yn cael eu chwarae yn [[Llanelli]] gyda rhai yn [[Wrecsam]].
Yn swyddogol mae Scarlets Llanelli yn cynrycholi Gorllewin a Gogledd Cymru gyda rhan fwyaf o'r gemau yn cael eu chwarae yn [[Llanelli]], ag ambell gêm yn [[Wrecsam]].


Fe'i crewyd o'r chwaraewyr llwyddianus yn [[Clwb Rygbi Llanelli]] y tymor cynt, gyda'r rhanbarth yn llwyddiannus yn ei dymor cyntaf. Cyrhaeddon nhw yr wyth olaf (Y Cwarteri) yn [[Cwpan Heineken]] ac ennill y [[Cynghrair Celtaidd]]. Ond methwyd ailadrodd y llwyddiant hyn yn yr ail dymor oherwydd anafiadau ac i [[Stephen Jones]] adael i
Fe'i crewyd o'r chwaraewyr llwyddianus yn [[Clwb Rygbi Llanelli]] y tymor cynt, gyda'r rhanbarth yn llwyddiannus yn ei dymor cyntaf. Cyrhaeddon nhw yr wyth olaf (Y Cwarteri) yn Cwpan Heineken ac ennill y Cynghrair Celtaidd. Ond methwyd ailadrodd y llwyddiant hyn yn yr ail dymor oherwydd anafiadau ac i [[Stephen Jones]] adael i
ymuno â ASM Clermont Auvergne yn Ffrainc. Gorffenon nhw'r tymor yn y 5ed safle yn y Cynghrair ond gan gyrraedd rownd derfynol yng Ngwpan Celtaidd. Yn y trydydd tymor fe fethon nhw gyraedd ail rownd [[Cwpan Heineken]] am yr ail dymor a gorffen yn y 6ed safle yn y Cynghrair Celtaidd. Cyrhaeddon nhw rownd derfynol [[Cwpan Eingl-Gymreig]] yn Twickenham (2005-6). Mae [[Stephen Jones]] yn awr yn nol yn chwarae gyda'r Sgarlets.
ymuno â ASM Clermont Auvergne yn Ffrainc. Gorffenon nhw'r tymor yn y 5ed safle yn y Cynghrair ond gan gyrraedd rownd derfynol yng Ngwpan Celtaidd. Yn y trydydd tymor fe fethon nhw gyraedd ail rownd Cwpan Heineken am yr ail dymor a gorffen yn y 6ed safle yn y Cynghrair Celtaidd. Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Cwpan Eingl-Gymreig yn Twickenham (2005-6). Mae [[Stephen Jones]] yn awr yn ôl yn chwarae gyda'r Sgarlets.


==Cartref==
==Cartref==

Fersiwn yn ôl 00:13, 21 Chwefror 2007

Scarlets Llanelli

Lliwiau'r Tîm

Gartref

Fwrdd

Rhanbarthau Rygbi Cymru 2004

Mae Scarlets Llanelli yn rhanbarth rygbi'r undeb yng Nghymru, ac yn chwarae yn y Gynghrair Celtaidd, y Cwpan Heineken a'r Cwpan Eingl-Gymreig.

Hanes y Rhanbarth

Mae Scarlets Llanelli yn un o'r pump rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Hefyd roeddent yn un allan o ddau rhanbarth nad oedd rhaid iddynt gyfuno gyda clwb arall pan ddaeth y rhanbarthau i fodolaeth yng Ngymru ym myd rygbi'r undeb.

Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bump rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Africa. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau.

Yn swyddogol mae Scarlets Llanelli yn cynrycholi Gorllewin a Gogledd Cymru gyda rhan fwyaf o'r gemau yn cael eu chwarae yn Llanelli, ag ambell gêm yn Wrecsam.

Fe'i crewyd o'r chwaraewyr llwyddianus yn Clwb Rygbi Llanelli y tymor cynt, gyda'r rhanbarth yn llwyddiannus yn ei dymor cyntaf. Cyrhaeddon nhw yr wyth olaf (Y Cwarteri) yn Cwpan Heineken ac ennill y Cynghrair Celtaidd. Ond methwyd ailadrodd y llwyddiant hyn yn yr ail dymor oherwydd anafiadau ac i Stephen Jones adael i ymuno â ASM Clermont Auvergne yn Ffrainc. Gorffenon nhw'r tymor yn y 5ed safle yn y Cynghrair ond gan gyrraedd rownd derfynol yng Ngwpan Celtaidd. Yn y trydydd tymor fe fethon nhw gyraedd ail rownd Cwpan Heineken am yr ail dymor a gorffen yn y 6ed safle yn y Cynghrair Celtaidd. Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Cwpan Eingl-Gymreig yn Twickenham (2005-6). Mae Stephen Jones yn awr yn ôl yn chwarae gyda'r Sgarlets.

Cartref

Mae Scarlets Llanelli yn chwarae y rhan fwyaf o'u gemau ar Barc y Strade yn Llanelli ond maent hefyd wedi chwarae sawl gêm ar Y Cae Ras yn Wrecsam. Yn aml gellir clywed caneuon fel "Calon Lan" a "Sosban Fach" yn yr stadiwm.

Cynlluniwyd y tymor 2006/07 fel y tymor olaf y byddai'r Scarlets yn chwarae eu rygbi ar Barc y Strade, a fydd wedyn yn cael ei ddymchwel ar gyfer datblygiad tai yn yr ardal. Cynllun swyddogol y clwb yw i ddefnyddio'r arian a ddaw o adeuladaeth y tai ar dir Parc y Strade i gyllido adeuladaeth stadiwm newydd ar safle yn Nhrostre. Amcangyfrifwyd y bydd y stadiwm newydd yn costio tua £45miliwn a bydd yn dal 13,500 o bobl. Mae cryn dipyn o wrthwynebiad i'r cynlluniau hyn yn lleol, ac mae problemau ynglŷn â peryg dilyw yn ardal breswyl y datblygiad wedi gohirio'r cynllun nes fod y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatau i'r datblygiadau barhau.

Llywydd y clwb yw Ray Gravell

Llwyddiannau

  • Ennillwyr y Gynghrair Celtaidd 2003-2004
  • Cyrraedd rownd derfynol Cwpan Celtaidd 2004-2005
  • Cyrraedd rownd yr 8 olaf yng Nghwpan Heineken 2003-2004, 2006-2007
  • Cyrraedd rownd y 4 olaf yng Nghwpan Heineken 2004-2005
  • Cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Powergen 2005-2006

Cysylltiadau allanol