Cilgerran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu / rhyngwici
delwedd gan John Thomas (ffotograffydd)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:DSCN3808-e-tower.jpg|200px|bawd|[[Castell Cilgerran]] : y tŵr gorllewinol a'r bont fynediad i'r cwrt mewnol]]
[[Delwedd:DSCN3808-e-tower.jpg|200px|bawd|[[Castell Cilgerran]] : y tŵr gorllewinol a'r bont fynediad i'r cwrt mewnol]]
[[Delwedd:Jth00208.jpg|bawd|chwith|Hen ffotograff gan [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]] o ffair yng Nghilgerran yn 1885.]]
Mae '''Cilgerran''' yn dref fechan yng ngogledd [[Sir Benfro]], ger [[Aberteifi]]. Saif y dref ar lethrau deheuol [[Dyffryn Teifi]] gyferbyn â [[Llechryd]]. Mae ffyrdd yn ei gysylltu ag Aberteifi a Llechryd i'r gogledd ac [[Abercuch]] a [[Castell Newydd Emlyn|Chastell Newydd Emlyn]] i'r dwyrain.

Fersiwn yn ôl 07:06, 27 Tachwedd 2011

Castell Cilgerran : y tŵr gorllewinol a'r bont fynediad i'r cwrt mewnol
Delwedd:Jth00208.jpg
Hen ffotograff gan John Thomas o ffair yng Nghilgerran yn 1885.

Mae Cilgerran yn dref fechan yng ngogledd Sir Benfro, ger Aberteifi. Saif y dref ar lethrau deheuol Dyffryn Teifi gyferbyn â Llechryd. Mae ffyrdd yn ei gysylltu ag Aberteifi a Llechryd i'r gogledd ac Abercuch a Chastell Newydd Emlyn i'r dwyrain.

Yn ymyl y dref ceir adfeilion Castell Cilgerran, castell Normanaidd o'r 13eg ganrif. Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw afon Teifi. Credir mai castell mwnt a beili a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn 1100. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13eg ganrif.

Mae'r cyfeiriad cynharaf at y dref yn dyddio i 1204 fel maenor yr arglwyddiaeth leol ; parhaodd yn faenor hyd yr 16eg ganrif. Er ei bod yn fychan roedd yn cael ei hystyried yn uno brif trefi marchnad Sir Benfro yn yr 17eg ganrif, ac fe ddaeth yn fwrdeistref farchnad. Mae'r hynafiaethydd George Owen, yn 1603, yn ei disgrifio fel un o bum bwrdeistref ym Mhenfro gyda portreeve.

Cynhelir ras cwragl ger y dref. Mae'r ras, a gychwynwyd yn 1950, yn denu cystadleuwyr o sawl gwlad.

Ym mynwent eglwys Llawddog Sant ceir maen hir gydag arysgrifiadau Ogam arno. Hefyd yn y fynwent mae bedd yr anturiaethwr William Logan, a gysylltir â Mynydd Logan, Canada.

Bu Cilgerran yn enwog ar un adeg am safon y llechi a gloddiwyd yn yr ardal ac a allforiwyd o Aberteifi.

Mae Cilgerran yn un o wardiau etholaethol Sir Benfro gyda'i chyngor etholedig ei hun.