Tiziano Vecellio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KamikazeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: uk:Тиціан
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: az:Tiziano Vekallio
Llinell 19: Llinell 19:
[[ar:تيتيان]]
[[ar:تيتيان]]
[[arz:تيتيان]]
[[arz:تيتيان]]
[[az:Tiziano Vekallio]]
[[be:Тыцыян]]
[[be:Тыцыян]]
[[be-x-old:Тыцыян]]
[[be-x-old:Тыцыян]]

Fersiwn yn ôl 14:42, 24 Tachwedd 2011

Hunanbortread (1566)

Arlunydd Eidalaidd oedd Tiziano Vecelli, mwy adnabyddus fel Titian (c. 148727 Awst 1576). Ystyrir ef yn un o arlunwyr pwysicaf y Dadeni.

Ganed Titian yn Pieve di Cadore, pentref yn y Dolomitau tua 190 km i'r gogledd o Fenis. Bu'n ddisgybl i Gentile Bellini ac yna i'w frawd, Giovanni. Dylanwad pwysig arall arno oedd Giorgione (c. 1477 - 1510).

Tua 1508, roedd Giorgione a Titian yn gyfrifol am waith ffresco ar y Fondaco dei Tedeschi yn Fenis. Yn 1511, arluniodd Titian waith ffresco yn y Scuola del Santo yn Padua. Yn 1516, daeth yn arlunydd swyddogol Gweriniaeth Fenis.

Yn 1532, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ef yn uchelwr. Yn y blynyddoedd 1530-40 bu'n gweithio yn Urbino. Yn 1545-46 bu yn Rhufain, ac yn 1548-1551 yn llys yr ymerawdwr yn Augsburg. Wedi marwolaeth Siarl, bu'n gweithio i Philip II, brenin Sbaen. Claddwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari yn Fenis.

Gweithiau