Bodas de sangre: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: it:Nozze di sangue (dramma)
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: he:חתונת הדמים
Llinell 68: Llinell 68:
[[es:Bodas de sangre]]
[[es:Bodas de sangre]]
[[fr:Noces de sang (Lorca)]]
[[fr:Noces de sang (Lorca)]]
[[he:חתונת הדמים]]
[[it:Nozze di sangue (dramma)]]
[[it:Nozze di sangue (dramma)]]
[[sv:Blodsbröllop]]
[[sv:Blodsbröllop]]

Fersiwn yn ôl 11:40, 24 Tachwedd 2011

Mae Priodas Waed yn ddrama trasiedi gan y dramodydd Sbaeneg Federico García Lorca. Ysgrifennwyd ym 1932 a pherfformwyd yn 1933. Ffurfir 'triawd y werin' efo'i ddramâu eraill Yerma a La Casa de Bernarda Alba ond nid oedd La Casa de Bernarda Alba yn ffurfio rhan o'i gynllun gwreiddiol.[1]

Braslun

Dim ond enwau fel mab, mam a priodferch sydd gan y cymeriadau. Agorir gyda'r mab a'r fam yn siarad. Mae gelyniaeth rhwng eu teulu a'r teulu Felix. Etyb y fam yn ffyrnig wrth weld cyllell yn ei law a chawn stori lladd ei frawd ac ei dad gan y Felixiaid.

Mae cymdoges yn datgelu bod darpar-wraig y mab yn gyn-gariad i Leonardo Felix, Mae'r fam yn penderfynu ymweld â'r briodferch. Mewn tŷ pellenig mae Leonardo, sy'n briod erbyn hyn ac yn dad i fab newydd, yn dychwelyd. Mae'r fam-yng-nghyfraith a gwraig Leonardo yn canu lwli trist i'r baban. Priodas anhapus sy gan Leonardo a phan ddaw merch fach i'r tŷ i adrodd hanes briodi ei gyn-gariad mae'n stormio o'r tŷ.

Mae'r fam yn cwrdd a theulu ei darpar-ferch-yng-nghyfraith ac er yn ddrwgdybus yn gadael yn hapus. Ond mae'r forwyn yn dod at y briodasferch i ddweud bod Leonardo wedi bod yn loitran o gwmpas y tŷ yn ddiweddar. Mae Leonardo yn dod y noson honno ac maen nhw'n cyffesu eu cariad at eu gilydd.

Wedi'r briodas mae parti mawr yn y tŷ a'r briodferch yn gadael i orwedd wedi'r diwrnod prysur. Ond ddaw yn amlwg bod hi wedi gadael â Leonardo. Mae'r mab a'r gwesteion i gyd yn mynd ar eu hôl nhw yn benderfynol o ladd Leonardo.

Wrth guddio yn y goedwig mae gwrach (neu gardotwraig) a'r lleuad yn ymddangos yn ysu am waed ffres. Goleuo'r pâr ifanc ac mae'r gŵr a Leonardo yn lladd ei gilydd.

Yn y pentref wedyn mae'r gwragedd yn ymgynnull ac yn sylwi wrth i'r brioferch cyrraedd yn ôl bod y priodfab a Leonardo wedi marw. Aneglur yw ffawd y weddw/priodferch wedyn; ai cael ei lladd neu ai byw yn hir fel gweddw llawn gofid.

Cymeriadau

  • La Madre - y fam
  • La Novia - y briodferch
  • La Suegra - mam-yng-nhgyfraith Leonardo
  • La Mujer De Leonardo - gwriag Leonardo
  • La Criada - morwyn
  • La Vecina - cymdoges
  • Muchachas - merched
  • Leonardo
  • El Novio - y priodfab
  • El Padre De La Novia - tad y briodferch
  • La Luna - Y lleuad
  • La Muerte (como mendiga) - Angau (fel wrach neu gardotwraig)
  • Leñadores - Torrwyr-coed
  • Mozos - bechgyn

Symboliaeth

Mae'r lleuad yn gymeriad cas, yn ysu am waed poeth rhag oerni'r nos. Defnyddir lliwiau a blodau fel symbolau gwyryfdod a diniweidrwydd. Ail-adroddir geiriau fel plata (arian), ramas (canghennau), paloma (colomen), ac yn aml iawn symbol y ceffyl a'i wynt yn ei ddwrn, Crynhoir y symboliaeth i gyd mewn lwli trist a genir i fab Leonardo mewn adlais o'r hyn sydd i ddod.

Themâu

Gwell i farw wrth geisio cariad na byw mewn anobaith ac yn gaeth i hualau'r gymdeithas. Felly marwolaeth a chariad, cydymffurfiaeth, chwant a rhyddid yr unigolyn yw ei themâu. A'r penderfyniad byrbwyll i ddianc - a symboleiddir gan y ceffyl, a'r tynged anochel sy'n deillio o dorri rheolau'r gymdeithas.

Addasiadau

Yn y Gymraeg. Cyfieithiad gan R. Bryn Williams a John Rowlands. Cyfieithiad o'r ddrama Bodas de Sangre. Copi ar lein am ddim; http://www.uwp.co.uk/book_desc/0638.pdf

Opera: , Vérnász, gan y cyfansoddwr hwngaraidd Sandor Szokolay, Budapest - 1964 ac yn yr Almaeneg gan Wolfgang Förtner o dan yr enw 'Die Bluthochzeit.'

Addasiad Sbaeneg ym 1938, gyda Margarita Xirgu fel seren.

Ffilm ym 1981, gan Carlos Saura dan yr enw Blood Wedding).

Opera Ffrangeg yn 2006 Haiti dan yr enw Le Maryaj Lenglensou, gan y cyfarwyddwr Hans Fels, a sgôr Iphares Blain. [1]

Cyfeiriadau

Dolennau allanol

Nodyn:Dramâu Lorca

  1. Maurer (1992, ix).