Gabon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JhsBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: nso:Gabon |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn newid: na:Gabun |
||
Llinell 169: | Llinell 169: | ||
[[mt:Gabon]] |
[[mt:Gabon]] |
||
[[my:ဂါဘွန်နိုင်ငံ]] |
[[my:ဂါဘွန်နိုင်ငံ]] |
||
[[na: |
[[na:Gabun]] |
||
[[nah:Gabon]] |
[[nah:Gabon]] |
||
[[nds:Gabun]] |
[[nds:Gabun]] |
Fersiwn yn ôl 07:24, 23 Tachwedd 2011
| |||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: La Concorde | |||||
Prifddinas | Libreville | ||||
Dinas fwyaf | Libreville | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd • Prif Weinidog |
Ali Bongo Ondimba Paul Biyoghé Mba | ||||
Annibyniaeth - Datganwyd |
ar Ffrainc 17 Awst 1960 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
267,668 km² (75ain) bron i ddim | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
1,384,000 (148ain) 5.2/km² (216eg) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $9.621 biliwn (136fed) $7,055 (89ain) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.635 (123fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Ffranc CFA (XFA )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
WAT (UTC+1) WAT (UTC+1) | ||||
Côd ISO y wlad | .ga 1 | ||||
Côd ffôn | +241
|
Gweriniaeth yng ngorllewin Canolbarth Affrica yw Gweriniaeth Gabon neu Gabon (Ffrangeg: La République gabonaise). Mae'r boblogaeth yn isel iawn yn nhermau gwledydd Affrica. Y gwledydd cyfagos yw Guinea Gyhydeddol, Camerŵn a Gweriniaeth y Congo. Mae'n wlad sy'n llawn o goedwigoedd trofaol sy'n gorwedd ar arfordir Gwlff Gini. Mae ganddi fauna a flora cyfoethog ac erys ei hamgylchedd heb ei difetha llawer. Roedd gynt yn drefedigaeth Ffrengig. Ers ei annibyniaeth ar Ffrainc yn 1960, mae hi dan reolaeth arlywyddion awtocratig, ond mae system bleidol a chyfansoddiad ganddi newydd ers y 1990au.
Hanes
Ychydig sy'n hysbys am hanes cynnar y wlad. Gwelwyd tonnau olynol o ymsefydlu yn y wlad, hyd at y 19eg ganrif, gan bobloedd Pygmi i ddechrau ac yna ar raddau mwy sylweddol gan y Bantu, sy'n ffurfio mwyafrif y boblogaeth erbyn heddiw. Yn ystod y mudo hyn daeth yr Ewropeiaid cyntaf, y Portiwgaliaid, i lannau Gabon yn y 15fed ganrif. Daw'r enw 'Gabon' o'r enw Portiwgaleg Gabão "penrhyn", oherwydd siâp yr aber lle saif Libreville heddiw. Cipiodd Ffrainc y wlad oddi ar Portiwgal yn 1855. Cafodd y wlad ei hannibyniaeth 17 Awst, 1960.
Gwleidyddiaeth
Mae gan Gabon system arlywyddol. Arlywydd cyntaf Gweriniaeth Gabon oedd Léon Mba. Yr ail arlywydd, sydd mewn grym ers 1967, yw Omar Bongo Ondimba.
Taleithiau
Rhennir Gabon yn 9 talaith:
- Estuaire
- Haut-Ogooué
- Moyen-Ogooué
- Ngounié
- Nyanga
- Ogooué-Ivindo
- Ogooué-Lolo
- Ogooué-Maritime
- Woleu-Ntem.
Iaith a diwylliant
Ffrangeg yw'r brif iaith a'r unig iaith swyddogol ond sieredir sawl iaith brodorol yn ogystal.
Gyda'i chymydog Camerŵn mae Gabon yn gartref i ddiwylliant y Ffangiaid, grŵp ethnig sy'n adnabyddus am ei dawnsiau a'i chelf dradoddiadol, yn arbennig ei masgiau trawiadol.