Llosgfynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.6.3) (robot yn ychwanegu: sn:Chikwatamabwe
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.1) (robot yn ychwanegu: bo:མེ་རི།
Llinell 62: Llinell 62:
[[bg:Вулкан]]
[[bg:Вулкан]]
[[bn:আগ্নেয়গিরি]]
[[bn:আগ্নেয়গিরি]]
[[bo:མེ་རི།]]
[[br:Menez-tan]]
[[br:Menez-tan]]
[[bs:Vulkan]]
[[bs:Vulkan]]

Fersiwn yn ôl 04:40, 23 Tachwedd 2011

Llosgfynydd yn Tambora, Indonesia

Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 100km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lydw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys creigiau a nwy.

Gelwir y creigiau sydd yn ffurfio o achos ffrwydriadau folcanig yn Greigiau Igenaidd, er enghraifft Basalt neu Gwenithfaen.

Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.

Echdoriadau diweddar

Llosgfynydd yn Ynys yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall yn Ynys yr Iâ, sef Grímsvötn. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.


Llosgfynyddoedd y Byd

Dyma rai o'r llosgfynyddoedd enwocaf:

Llosgfynyddoedd Cymru

Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er engraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol