Jamie Bell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gl:Jamie Bell
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fa:جیمی بل
Llinell 27: Llinell 27:
[[en:Jamie Bell]]
[[en:Jamie Bell]]
[[es:Jamie Bell]]
[[es:Jamie Bell]]
[[fa:جیمی بل]]
[[fi:Jamie Bell]]
[[fi:Jamie Bell]]
[[fr:Jamie Bell]]
[[fr:Jamie Bell]]

Fersiwn yn ôl 18:27, 22 Tachwedd 2011

Mae Jamie Bell (ganed 14 Mawrth 1986) yn actor Prydeinig sydd wedi ennill BAFTA. Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan y prif gymeriad yn y ffilm Billy Elliot (2000), sef y rôl yr enillodd Wobr BAFTA amdano yn 2001.

Bywgraffiad

Cafodd Bell ei eni yn Billingham,[1] ym mwrdeisdref Stockton on Tees, Lloegr lle tyfodd i fyny gyda'i fam, Eileen a'i chwaer hŷn[2]. Gadawodd ei dad y cartref teuluol cyn iddo gael ei eni. Mynychodd Bell Ysgol Northfield ac yna ysgol berfformio Stagecoach. Roedd yn aelod o'r Theatr Cerddoriaeth Ieuenctid Cenedlaethol. Ym 1999, cafodd ei ddewis allan o 2000 o fechgyn i chwarae rhan Billy Elliot, bachgen 11 mlwydd oed sy'n digalonni ei frawd a'i dad weddw, dosbarth gweithiol trwy ddechrau ymddiddori mewn ballet.

Gyrfa

Ers iddo gael y prif ran yn Billy Elliot, ymddangosodd Bell fel y gwas cloff mewn addasiad o Nicholas Nickleby, fel milwr ifanc yn Deathwatch, fel arddegwr a oedd yn ceisio ffoi yn Undertow, fel heddychwr a gariai gwn yn Dear Wendy ac fel y Jimmy ifanc yn y fersiwn ffilm o King Kong (2005). Hefyd chwaraeodd y prif ran yn Hallam Foe a chafodd ei enwebu am y wobr Actor Gorau yn Ngwobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain.

Roedd ganddo ddwy rôl mewn ffilmiau yn 2008: yn y ffilm gwyddonias Jumper ac yn y ffilm am yr Ail Ryfel Byd Defiance. Er y sibrydion, ni fydd yn ymddangos yng nghynhyrchiad y West End o ddrama Thea Sharrock, Equus, wedi iddo dynnu allan o drafodaethau pan na gynigiwyd y cytundeb iddi ar gyfer cynhyrchiad y sioe yn Broadway.

Ei Fywyd Personol

Yn 2005 a 2006, roedd Bell yn canlyn yr actores Evan Rachel Wood - ymddangosodd y ddau ohonynt yn fideo cerddorol y band Green Day, "Wake Me Up When September Ends".

Ar hyn o bryd mae'n trigo yn Ninas Efrog Newydd ac mae hefyd yn perchen ar gartref yn Chelsea, London.

Cyfeiriadau