Cilogram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: li:Kilogram |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: lmo:Chilo |
||
Llinell 80: | Llinell 80: | ||
[[lb:Kilogramm]] |
[[lb:Kilogramm]] |
||
[[li:Kilogram]] |
[[li:Kilogram]] |
||
[[lmo:Chilo]] |
|||
[[ln:Kilogálame]] |
[[ln:Kilogálame]] |
||
[[lt:Kilogramas]] |
[[lt:Kilogramas]] |
Fersiwn yn ôl 18:00, 22 Tachwedd 2011
Mae Cilogram (neu Kilogram) yn Uned Safonol Ryngwladol o Unedau (International System of Units, (SI, o'r Ffrangeg, Le Système International d’Unités) ac mae'n gydradd â'r Prototeip Rhyngwlad - gweler y llun ar y dde. Mae pob cilogram wedi'i safoni ar yr un yma a gedwir ym Mharis.
Yn Gymraeg, defnyddiwn y symbol rhyngwladol kg, gan y byddai gwrthdaro gydag uned arall (y centigram) pe bawn yn defnyddio cg.
Mae'r uned hon (sef y cilogram) yn 2.20462262 pwys (yr hen bwysau 'Imperial'). Uned arferol dwysedd yw cilogram pob metr ciwb (cg/m³).
Lle
- ρ yw dwysedd y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogram pob metr ciwb)
- m yw màs cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogramau)
- C yw cyfaint cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn metrau ciwb)
Hanes
Ar 26 Mawrth 1791 danfonodd Ffrancwr o'r enw Charles Maurice de Talleyrand-Périgord lythyr at Lywodraeth Ffrainc yn galw am safoni'r grefft o fesur. Pedwar diwrnod ar ôl derbyn y llythyr hwn, sefydlodd y llywodraeth Academi a rhannwyd y gwaith gan greu unedau metrig sy'n parhau i gael eu defnyddio heddiw.
Ar 7 Ebrill 1795 cyhoeddwyd yn Ffrainc fod y gram yn hafal i "bwysau absoliwt cyfaint y dŵr sydd mewn ciwb 1cm wrth 1cm (un centimetr ciwb), a hynny ar dymheredd rhew.[1] Ond roedd diwydiant yn gweiddi am fesurau mwy na'r centimetr a'r gram. Sylweddolwyd hefyd fod pwysau rhew yn amrywiol ac yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac felly aethpwyd ati i greu prototeip mwy ymarferol na dŵr, a fyddai 1000 gwaith yn fwy na'r gram, sef y "kilogram". Yn yr un flwyddyn, aethpwyd ymlaen â'r gwaith o ddiffinio "litr".