Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: zea:Cardiff
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: az:Kardiff
Llinell 194: Llinell 194:
[[ar:كارديف]]
[[ar:كارديف]]
[[arz:كارديف]]
[[arz:كارديف]]
[[az:Kardiff]]
[[be-x-old:Кардыф]]
[[be-x-old:Кардыф]]
[[bg:Кардиф]]
[[bg:Кардиф]]

Fersiwn yn ôl 19:49, 21 Tachwedd 2011

Dinas Caerdydd
Arfbais
Motto: Y ddraig goch ddyry cychwyn
Dinas Caerdydd
Lleoliad o fewn Cymru
Daearyddiaeth
Statws: Dinas (1905)
Pencadlys: Caerdydd
Arwynebedd: 140 km²
Cod SYG: 12PT
ISO 3166-2: GB-CRF
Demograffeg
Poblogaeth (2001) 305,353
2,181 / km²
Gwleidyddiaeth
www.caerdydd.gov.uk
Gweithgor: Dim rheolaeth gyffredinol
AS: Kevin Brennan, Alun Michael, Julie Morgan, Jenny Willott

Caerdydd (Saesneg: Cardiff) yw dinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 'roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hon oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.

Hanes

Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerdydd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Economi

Cestyll

Trafnidiaeth

Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael ei redeg gan Fws Caerdydd a Threnau Arriva Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys wyth rheilffordd, i Faesteg, Bro Morgannwg a Maes Awyr Caerdydd, Treherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr, Coryton, Rhymni, a Bae Caerdydd. Mae gan y ddinas 22 orsaf fel gorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol Y Frenhines, ill dwy yng nghanol y ddinas.

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ym Mro Morgannwg.

Pobl o Gaerdydd

Castell Caerdydd
Canolfan Mileniwm Cymru
Stadiwm y Mileniwm

Cymunedau Caerdydd

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1883, 1899, 1938, 1960, 1978 a 2008. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi

Gweler hefyd

Dolenni allanol

 
Dinasoedd yng Nghymru
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato