Afon Wouri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ru:Вури (река) |
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: zh:武里河 |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[pt:Rio Wouri]] |
[[pt:Rio Wouri]] |
||
[[ru:Вури (река)]] |
[[ru:Вури (река)]] |
||
[[zh:武里河]] |
Fersiwn yn ôl 15:40, 20 Tachwedd 2011
Y maw Afon Wouri (hefyd Vouri neu Vuri) yn afon yn ne Camerŵn.
Ei chwrs
Ffurfir yr afon yn aber afonydd Ykam ac Afon Makombé, 32 km (20 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Yabassi. Mae Afon Wouri yn llifo wedyn am 160 km (100 milltir) i gyfeiriad y de-ddwyrain i aberu yn y Cefnfor Iwerydd yn ninas Douala, ar Gwlff Guinea. Gellir mordeithio 64 km (40 milltir) i fyny'r afon o Ddouala.
Fforwyr Portiwgalaidd
Y fforiwr Portiwgalaidd Fernão do Pó (neu Fernando Póo), oedd yr Ewropeiad cyntaf i chwilio'r afon, tua'r flwyddyn 1472. Oherwydd i'r mordeithwyr ddarganfod nifer helaeth o Corgimachiaid ynddi, enwyd yr afon yn Rio dos Camarões (Portiwgaleg am "Afon Corgimachiaid") ganddynt. Dyma'r enw a roddes yr enw Camerŵn ar y wlad ei hun.
Pont Bonabéri
Mae Pont Bonabéri, a godwyd gan y Ffrancwyr yn y 1950au, yn cysylltu Douala â thref Bonabéri ar y lan arall. Dyma'r bont bwysicaf yn y wlad sy'n cludo cynnyrch amrywiol o'r de i'r canolbarth.