David Davies (Dai'r Cantwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Deb (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
{{eginyn hanes Cymru}} |
{{eginyn hanes Cymru}} |
||
{{DEFAULTSORT:Davies, David}} |
|||
[[Categori:Hanes Cymru]] |
[[Categori:Hanes Cymru]] |
||
[[Categori:19eg ganrif yng Nghymru]] |
[[Categori:19eg ganrif yng Nghymru]] |
||
[[Categori:Baledwyr Cymraeg]] |
[[Categori:Baledwyr Cymraeg]] |
||
[[en:David Davies (Dai'r Cantwr)]] |
Fersiwn yn ôl 09:42, 20 Tachwedd 2011
Bu'r baledwr Dai'r Cantwr (c. 1812 - 1874) (neu David Davies i roi iddo'i enw llawn) yn amlwg iawn yn Helyntion Beca; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.[1] Roedd yn ddyn tal â gwallt gwinau a barf browngoch.
Ganwyd ef yn Nhregof (neu Dreguff ar lafar), Llancarfan[2] a bu'n chwarelwr am rai blynyddoedd ac yn was fferm ac yn weithiwr diwydiannol yn Nhredegar cyn ymsefydlu ym Mhontyberem. Bu hefyd yn pregethu ac mae'n bosibl mai ef a enillodd y Delyn yn Eisteddfod y Fenni ym 1838.
Tra'n ceisio dychryn Rheolwr gwaith glo Pontyberem, gweiddodd, Ni chaiff Sais fod yn rheolwr yng Nghymru, mwyach! Fe'i daliwyd yn nhafarn y Plough and Harrow ym Mhump-hewl a'i gyfaill Sioni Sgubor Fawr yn y Tymbl. Yn y brawdlys yng Nghaerfyrddin ar 22 Rhagfyr dedfrydwyd Sioni i alltudiaeth am oes, a Dai'r Cantwr i ugain mlynedd o alltudiaeth.
Pan gyrhaeddodd Wlad Van Diemen's Land, (neu Tasmania heddiw) roedd yn 31 oed a hynny yng gorffennaf 1844.
Y baledwr
Tra yng ngharchar Caerfyrddin, ysgrifennodd:
- Drych i fyd wyf i fod,
- Collais glod allswn gael.
- Tost yw'r nod, ddyrnod hael
- I'w gafael ddaeth a mi.
- Yn fy iengtid drycfyd ddaeth,
- Yn lle rhyddid - caethfyd maith,
- Chwanegwyd er fy ngofid.
- Alltud wyf ar ddechrau nhaith...
Cyfeiriadau
- ↑ 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru, 1961.
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-Lein, Y Llyfrgell Gendlaethol.