David Davies (Dai'r Cantwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:14, 20 Tachwedd 2011
Bu'r baledwr Dai'r Cantwr (neu David Davies i roi iddo ei enw llawn) yn amlwg iawn yn Helyntion Beca; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.[1]
Ganwyd ef yn Llancarfan a bu'n chwarelwr am rai blynyddoedd ac yn was fferm ac yn weithiwr diwydiannol yn Nhredegar cyn ymsefydlu ym Mhontyberem. Bu hefyd yn pregethu ac mae'n bosibl mai ef a enillodd y Delyn yn Eisteddfod y Fenni ym 1838.
Tra'n ceisio dychryn Rheolwr gwaith glo Pontyberem, gweiddodd, Ni chaiff Sais fod yn rheolwr yng Nghymru, mwyach!" Fe'i daliwyd ym Mhump-hewl a'i gyfaill Sioni Sgubor Fawr yn y Tymbl. Yn y brawdlys yng Nghaerfyrddin ychydig wedi Nadolig 1843 dedfrydwyd Sioni i alltudiaeth am oes, a Dai'r Cantwr i ugain mlynedd o alltudiaeth.
Flynyddoedd yn ddiweddarach dychwelodd i Gymru, ond nid aeth yn ôl i'w "hoff Forgannwg".
Y baledwr
Tra yng ngharchar Caerfyrddin, ysgrifennodd:
- Drych i fyd wyf i fod,
- Collais glod allswn gael.
- Tost yw'r nod, ddyrnod hael
- I'w gafael ddaeth a mi.
- Yn fy iengtid drycfyd ddaeth,
- Yn lle rhyddid - caethfyd maith,
- Chwanegwyd er fy ngofid.
- Alltud wyf ar ddechrau nhaith...
Cyfeiriadau
- ↑ 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru, 1961.