Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Y meddyliau mawr
Siarlot a Neli
Llinell 5: Llinell 5:
:''Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.''
:''Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.''

Yn aml, roedd ganddi "ddwy chwaer" o'i phopty yn cyd-arwain ac a elwid yn Siarlot a Neli.<ref>'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud42; Gwasg Prifysgol Cymru 1961.</ref>


==Asgwrn y gynnen==
==Asgwrn y gynnen==

Fersiwn yn ôl 07:36, 20 Tachwedd 2011

Digriflun o'r London Illustrated News yn dangos Merched Beca yn ymosod ar dollborth

Gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg oedd Helyntion Beca (hefyd Becca), a barodd o 1839 hyd 1844. Trawodd Beca gyntaf yn Efail-wen ar yr 13 Mai 1839, gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y 6 Mehefin yn yr un flwyddyn ac eto ar yr 17 Gorffennaf. Llosgwyd y tolldy. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr 1843 a gwanwyn 1844 ledled de-orllewin Cymru. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y dynion yn gwisgo dillad merched ac yn peintio’u gwynebau’n ddu i ymosod ar y tollbyrth, fel na fyddai neb yn eu hadnabod. 'Merched Rebecca' neu 'Ferched Beca' oedd yr enw arnyn nhw ar lafar. Dywed rhai iddynt gael eu heni ar ôl benyw o'r enw Rebecca, neu Beca Fawr, a oedd wedi benthyg ei dillad iddyn nhw. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw fod yr enw Rebecca yn gyfeiriad at adnod yn Llyfr Genesis, Pennod 24, adnod 60, lle sonir am fam a brawd Rebecca yn gadael iddi fynd gydag Eliezer, gwas Abraham, i briodi Isaac:

Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.

Yn aml, roedd ganddi "ddwy chwaer" o'i phopty yn cyd-arwain ac a elwid yn Siarlot a Neli.[1]

Asgwrn y gynnen

Achos yr helynt oedd y Turnpike Trusts newydd. Roedd rhaid talu i deithio ar hyd y ffyrdd. Roedd 'na ddeuddeg o nhw yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn Sir Benfro, dau yn Sir Aberteifi, dau yn Sir Faesyfed, un yn Sir Frycheiniog a deuddeg ym Morgannwg. Roedden nhw'n amhoblogaidd iawn yn arbennig gan ffermwyr oedd yn gorfod talu i yrru'r gwartheg hyd nhw.

Pwy oedd Rebeca?

Sonnir am Twm Carnabwth (Thomas Rees) fel un o'u harweinwyr. Roedd yn gymeriad cyfeillgar, lliwgar, ac yn ŵr crefyddol iawn. Roedd yn adroddwr pwnc gwych ond hefyd roedd yn enwog fel paffiwr (bocsiwr) mewn ffeiriau yn Sir Benfro, Aberteifi a Chaerfyddin. Cafodd Twm ei gladdu yng Nghapel y Bedyddwyr, Mynachlog Ddu.

Fodd bynnag, mae'n ddigon posib mai trefnwyr yr ymgyrch oedd dau ddyn arbennig: y Bargyfreithiwr Lloyd Hall a'r cyfreithiwr Hugh Williams.[2]

Cyfeiriadau

  1. 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud42; Gwasg Prifysgol Cymru 1961.
  2. 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud42; Gwasg Prifysgol Cymru 1961.

Llyfryddiaeth

  • David Williams, The Rebecca Riots, Gwasg Prifysgol Caerdydd, ISBN 0-7083-0933-X Trosiad gan Beryl Thomas, Helyntion Beca (1974)
  • Pat Molloy And they blessed Rebecca, Gwasg Gomer, ISBN 0-86383-031-5
  • Catrin Stevens, Terfysg Beca (Gwasg Gomer, 2007)


Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.